Adfent 2014
Tymor yr Adfent 2014, 22
“Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith y rhai sydd wrth ei fodd. ” (Luc 2:14 BCN)
Neithiwr roedd gwasanaeth ‘Carolau yng Ngolau Cannwyll’ yn ein capel. Y gamp flynyddol i mi yw dod o hyd i thema sy’n help i ni feddwl am ystyr yr ŵyl. Eleni, gyda chymaint o sôn wedi bod am ganmlwyddiant dechrau’r rhyfel byd cyntaf, roedd yn naturiol i mi droi at y cad-oediad ddigwyddodd rhwng y byddinoedd ar noswyl Nadolig. (rhagor…)
Dyma ni wedi cyrraedd diwedd y gwyliau Nadolig yn ôl yr hen draddodiad. Mae’r paratoi dros dymor yr Adfent, a’r dathlu dros ddeuddeg diwrnod yn dod i ben heddiw. Yfory bydd llawer yn tynnu’r addurniadau i lawr, a bydd bywyd yn dychwelyd i normalrwydd mis Ionawr. Bydd y plant yn dychwelyd i’r ysgolion, y myfyrwyr i’r colegau a phawb arall i’w gorchwylion a’u gwaith. Bywyd normal, cyfarwydd wrth i ni gerdded llwybr bywyd trwy flwyddyn arall.