crucifixion-of-jesus-247x300Gwelsom ei ogoniant ef, ei ogoniant fel unig Fab yn dod oddi wrth y Tad. (‭Ioan‬ ‭1‬:‭14‬ BCN)

Pan glywn ni’r gair “gogoniant” beth tybed ddaw i’n meddwl? Mae’r gair i lawer yn cyfleu rhwysg a seremoni. Mae’n cyfleu goleuadau disglair, gwisgoedd ysblennydd, gorsedd uchel, efallai ffanffer o drwmpedau a llawer o sŵn.

Yn y Beibl yn wir fe welwn adegau pryd bydd rhyw broffwyd yn cael ei ddwyn trwy weledigaeth neu freuddwyd i weld golygfa anhygoel gyda chreaduriaid ffantastig, yn cyfleu pŵer a nerth, a’r cyfan yn codi braw a dychryn i feidrolion. Darllenwch Chweched bennodd llyfr y proffwyd Eseia, neu benodau cyntaf llyfr Eseciel. Ewch gyda Moses at fynydd Sinai, neu gyda Solomon i gysegru’r deml, a gwylwch y bobl yn ofni oherwydd y gogoniant rhyfeddol oedd yn llenwi’r lle.

Ond mae Ioan ar ddechrau ei efengyl yn dweud wrthym iddo fod yn dyst i ogoniant gwahanol. Dyma ogoniant sydd i’w ganfod nid mewn gweledigaeth nefol, ond mewn cnawd baban yn y preseb. Nid mewn rhwysg a chyfoeth, ond mewn pregethwr yn teithio drwy wlad ddi-nod yn cadw cwmni i dlodion y gymdeithas.

Mae gogoniant yn thema gyson drwy efengyl Ioan. Pan drôdd Iesu y dŵr yn win ym mhriodas Cana Galilea, mae’n Ioan yn dweud wrthym: Gwnaeth Iesu hyn, y cyntaf o’i arwyddion, yng Nghana Galilea; amlygodd felly ei ogoniant, a chredodd ei ddisgyblion ynddo. (‭Ioan‬ ‭2‬:‭11‬ BCN) Dilynir hyn gan sawl gweithred oruwchnaturiol, ond peidiwn â meddwl mai’r gweithredoedd hyn yw’r gogoniant mae Ioan am i ni ei weld yn bennaf. Mae yna rhywbeth arall ar waith yma.

Fe ddywedodd Iesu nad dod i geisio ei ogoniant ei hun wnaeth. Mae yna ogoniant arall roedd yn ei geisio – pan oedd yn tynnu at ddiwedd ei amser ar y ddaear fe ddywedodd:  “Yn awr y mae fy enaid mewn cynnwrf. Beth a ddywedaf? ‘O Dad, gwared fi rhag yr awr hon’? Na, i’r diben hwn y deuthum i’r awr hon. O Dad, gogonedda dy enw.”  (‭Ioan‬ ‭12‬:‭27-28‬ BCN)

Daeth y gogoniant hwn i’r amlwg wrth i’r baban a anwyd ym Methlehem fynd i wynebu creulondeb a melltith croes Calfaria. Dyma’r Gair a ddaeth yn gnawd, yr un fedrai dawelu storm ar y môr gyda gair, fedrai lanhau’r gwahanglwyfus o’u hafiechyd, fedrai godi merch Jairus o’i gwely angau a galw Lasarus o’r bedd.

Gallai Ioan ddweud: gwelsom ei ogoniant ef, ei ogoniant fel unig Fab yn dod oddi wrth y Tad. (‭Ioan‬ ‭1‬:‭14‬ BCN) Dyma’r un Mab unigryw wedi dod nid i ddangos ei allu goruwchnaturiol, ond i gyflawni ewyllys ei Dad trwy farw yn aberth dros bechod y byd. Oherwydd “carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.” (Ioan‬ ‭3‬:‭16‬ BCN)

Dyma’r un oedd yn llawn gras a gwirionedd. Dyma ogoniant y Duw sy’n ymddangos mewn gwendid. Dyma fawredd y Duw sy’n dod fel baban diamddiffyn i’n byd. Dyma ryfeddod y Duw sanctaidd sydd yn drugarog a graslon tuag at bechaduriaid fel chi a fi.

Beth fydd ein hymateb ni i’r fath ogoniant?

Wrth edrych, Iesu, ar dy groes,
a meddwl dyfnder d’angau loes,
pryd hyn ‘rwyf yn dibrisio’r byd
a’r holl ogoniant sy ynddo i gyd.

N’ad im ymddiried tra bwyf byw
ond yn dy angau di, fy Nuw;
dy boenau di a’th farwol glwy’
gaiff fod yn ymffrost imi mwy.

Dyma lle’r ydoedd ar brynhawn
rasusau yn disgleirio’n llawn:
mil o rinweddau yn gytûn
yn prynu’r gwrthgiliedig ddyn.

Gwelwch yn nwylo’r Prynwr pur
Ac yn ei draed yr hoelion dur;
Edrychwch ar y wayw-ffon
Yn torri’r archoll dan ei fron.

Poen a llawenydd dan y loes,
tristwch a chariad ar y groes;
ble bu rhinweddau fel y rhain
erioed o’r blaen dan goron ddrain?

Myfi aberthaf er dy glod
bob eilun sydd o dan y rhod,
ac wrth fyfyrio ar dy waed
fe gwymp pob delw dan fy nhraed.