WilliamHolmanHuntLightGwyn ei fyd y sawl ….. sy’n cael ei hyfrydwch yng nghyfraith yr ARGLWYDD ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos. (‭Y Salmau‬ ‭1‬:‭1-2‬ BCN)

Mae diwedd y flwyddyn yn dod, ac o fewn ychydig byddwn yn troi cefn ar 2014 am byth. Wrth gwrs, does yna ddim gwahaniaeth ar un olwg rhwng un diwrnod ag un arall. Ond mae modd defnyddio’r newid o un flwyddyn i’r llall fel man i nodi dechrau newydd. Dyna pam bydd pobl yn gwneud addunedau flwyddyn newydd. Mae’n gyfle i osod rhai pethau yn gadarn yn y gorffennol, a gosod patrwm gwahanol ar waith.

Rhan o broblem addunedau flwyddyn newydd yw nad ydym yn meddwl a pharatoi yn ddigonol ar eu cyfer, ac felly yn methu eu cadw. Ond mae’r syniad ein bod yn gosod arferion da ar waith yn gallu bod yn beth digon buddiol.

Heddiw a gaf fi eich atgoffa o’r fendith o ddarllen y Beibl bob dydd. Un o nodweddion ein hoes ni yw anwybodaeth ryfeddol pobl o Air Duw. Nid diffyg ymhlith rhai sydd heb arddel ffydd yn unig yw hyn. Mae rhai sy’n dweud eu bod yn Gristnogion yn methu yma hefyd. Ond mae’r budd o fyfyrio yn y datguddiad rhyfeddol hwn mae Duw wedi ei roi i ni mor fawr, fel y dylem wneud ein gorau i fwydo ein hunain bob diwrnod ohono.

Tybed ddaru chi sylwi, wrth i chi fynd trwy hanes geni ein Harglwydd, pa mor aml y cawn ymadrodd tebyg i: A digwyddodd hyn oll fel y cyflawnid y gair a lefarwyd gan yr Arglwydd trwy’r proffwyd: (‭Mathew‬ ‭1‬:‭22‬ BCN) (5 gwaith yn nwy bennod gyntaf Efengyl Mathew er enghraifft). Y Beibl sy’n gosod cyd-destun hanes y byd yn ei le i ni. Mae bwydo’n hunain o’r llyfr hwn yn ein helpu i gael perspectif iawn ar yr hyn sy’n digwydd yn ein byd.

Mae’r Salm gyntaf yn dweud wrthym y bydd myfyrio yng nghyfraith yr Arglwydd yn peri ein bod yn gallu wynebu bywyd yn well. Mae’r sawl sydd â’i hyfrydwch yng nghyfraith Duw “fel pren wedi ei blannu wrth ffrydiau dŵr ac yn rhoi ffrwyth yn ei dymor, a’i ddeilen heb fod yn gwywo. Beth bynnag a wna, fe lwydda.” (‭Y Salmau‬ ‭1‬:‭3‬ BCN) Gall bywyd fod yn ansicr ac anodd i bawb ohonom ar brydiau, ond mae’r addewid wedi ei roi y bydd yr Ysgrythur fel llusern i oleuo ein llwybr o’n blaen (Salm 119:105).

Ond sut mae mynd ati? Mae llu o gynlluniau ar gael i’ch helpu. Mae rhai sy’n mynd â chi drwy’r Beibl cyfan mewn blwyddyn, neu mewn tair blynedd. Mae rhai cynlluniau ar gael sy’n eich helpu i ddilyn rhai themáu arbennig. Mae nodiadau sy’n gallu eich helpu (ewch i’ch siop lyfrau Cristnogol leol i ofyn am gymorth). Os ydych yn defnyddio’r dechnoleg ddigidol, yna gallwch lawrlwytho app i’ch ffôn, eich tabled neu eich cyfrifiadur sy’n gallu bod o gymorth.

Un app rwyf fi wedi bod yn ei ddefnyddio eleni yw YouBible. Mae’n app sydd i’w gael yn rhad ac am ddim ar y we. Unwaith rydych wedi ei osod ar eich dyfais, yna gallwch lawrlwytho sawl cyfieithiad o’r Beibl. Mae cyfeithiadau William Morgan, y Beibl Cymraeg Newydd a Beibl.net ar gael yn y Gymraeg, a llu o gyfeithiadau Saesneg a sawl iaith arall. Wedyn mae’r app yn cynnig nifer o gynlluniau darllen. (Rwyf fi’n defnyddio cynllun M’Cheynne, sy’n mynd â mi drwy’rHen Destament i gyd unwaith, a’r Testament Newydd a’r Salmau ddwy waith bob blwyddyn). Os byddwch yn anghofio darllen rhyw ddiwrnod fe anfonant e-bost atoch i’ch atgoffa.

Ond pa ffordd bynnag byddwch yn ei ddewis, gwnewch adduned i geisio treulio amser bob diwrnod yn ystod y flwyddyn nesaf yn yr Ysgrythurau sanctaidd, sydd yn abl i’th wneud yn ddoeth a’th ddwyn i iachawdwriaeth trwy ffydd yng Nghrist Iesu. (‭2 Timotheus‬ ‭3‬:‭15‬ BCN)

Dyma Feibl annwyl Iesu
Dyma rodd deheulaw Duw;
Dengys hwn y ffordd i farw,
Dengys hwn y ffordd i fyw;
Dengys hwn y golled erchyll
Gafwyd draw yn Eden drist;
Dengys hwn y ffordd i’r bywyd,
Trwy adnabod Iesu Grist.

Feibl gwerthfawr, caiff dy eiriau
Gartref yn fy mynwes i;
Mae bendithion fyrdd myrddiynau
Yn dy addewidion di;
Bu fy nghalon dlawd yn crwydro
Trwy anialwch sych a gwyw,
Nes y daeth dy eiriau dwyfol
I’w chyfodi o farw’n fyw.

Cuddiaf d’eiriau yn fy nghalon,
Gwnaf, yn ddyfnach nag erioed;
Byddi’n llewyrch i fy Ilwybrau,
Ac yn llusern i fy nhroed;
Cyfaill fyddi ar y ddaear,
Ac yn angau glynu wnai;
Yn y nef am dragwyddoldeb
Bydd dy drysor yn parhau.