Nadolig 2014
Nadolig 2014, 5
Gwyn ei fyd y sawl ….. sy’n cael ei hyfrydwch yng nghyfraith yr ARGLWYDD ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos. (Y Salmau 1:1-2 BCN)
Mae diwedd y flwyddyn yn dod, ac o fewn ychydig byddwn yn troi cefn ar 2014 am byth. Wrth gwrs, does yna ddim gwahaniaeth ar un olwg rhwng un diwrnod ag un arall. Ond mae modd defnyddio’r newid o un flwyddyn i’r llall fel man i nodi dechrau newydd. Dyna pam bydd pobl yn gwneud addunedau flwyddyn newydd. Mae’n gyfle i osod rhai pethau yn gadarn yn y gorffennol, a gosod patrwm gwahanol ar waith. (rhagor…)
Yn y gyfres nesaf y bwriad fydd holi’r cwestiwn: Pam ydw i’n Gristion? Mewn cyfnod pryd mae llawer iawn o’m cyfoedion wedi cefnu ar yr hen draddodiad crefyddol, a’r gair “efengylaidd” yn arbennig yn dwyn cymaint o oblygiadau negyddol ym meddwl llawer o fy nghyd-Gymry, beth sy’n gwneud i mi fod yn hapus i arddel neges y Beibl?
Mi gefais i fy magu yn Aberystwyth – tref glan y môr – ac un o bleserau pob haf oedd mynd i nofio yn y môr. Roeddem ni wrth dyfu yn hoffi herio ein gilydd weithiau, ac un o’r campau oedd cychwyn un pen o’r traeth yn ymyl yr hen orsaf heddlu, a nofio allan tu hwnt i’r creigiau, cyn troi wedyn a dychwelyd ochr arall y crigiau ger y banstand. Wn i ddim pa mor bell oedd o, ond dwi’n cofio y tro cyntaf i mi ei wneud. Roeddwn wedi blino’n llwyr erbyn cyrraedd yn ôl i’r traeth. Un o’r pethau wnaeth fy helpu ar y ffordd oedd fod yna rhywun arall yn nofio gyda mi. Felly roeddem yn annog ein gilydd i ddal ati.
Un o’r ffilmiau hynny sy’n cael eu dangos ar y teledu yn rheolaidd dros y Nadolig yw Home Alone. Mae teulu yn mynd i ffwrdd ar wyliau gyda’i gilydd, ond mae nhw’n anghofio am Kevin sy’n cysgu’n hwyr. Mae yntau wedi ei adael gartref felly ac yn cael llawer o hwyl ac antur yn diogelu’r tŷ rhag lladron sy’n ceisio targedu tai sy’n wag dros dymor yr ŵyl. Mae’r ffilm wrth gwrs yn ffantasi llwyr, a llawer yn mwynhau ei gweld. Ond yn y cefndir mae’r ymwybyddiaeth na ddylai Kevin ddim fod wedi cael ei adael. Tyden ni ddim fod ar ein pen ein hunain.
Fe soniais i ddoe am ddeiet iach. Wrth gwrs nid mater o ddeiet yn unig yw byw yn iach. Ochr yn ochr â’r addunedau flwyddyn newydd am golli pwysau trwy fwyta’n well, bydd llawer yn ymuno â gym lleol. Bydd y mwyafrif ond yn mynychu’r gym am ychydig wythnosau, ond mae yna gydnabod bod rhaid cael ymarfer corff er mwyn cael gwerth a llesád o newid deiet. Er mwyn cael gwared â brasder diangen, a chryfhau’r cyhyrau, rhaid ymarfer y cyhyrau a llosgi’r brasder ymaith trwy ymarfer corfforol.
Mae’n siwr mai un testun trafod fydd yn dod i’r amlwg rwan, fel bob blwyddyn, fydd “mynd ar ddeiet.” Wedi’r gwledda dros yr ŵyl mi fydd pobl yn meddwl am ffyrdd o golli’r pwysau a chael gwared â’r modfeddi sydd wedi cael eu hychwanegu at ein canol gan y mins peis, y gacen Nadolig a’r siocledi. Mae bwyta’n iach yn beth synhwyrol i’w wneud, yn enwedig pan fyddwn yn clywed fod gordewdra yn un o broblemau mwyaf iechyd pobl yn y wlad hon. Wedi’r cyfan, pwy sydd am ddioddef o glefyd y galon, clefyd siwgr, neu un o’r llu o bethau y dywedir sy’n deillio o fod dros bwysau?
Gwelais erthygl ddoe oedd yn sôn am ficer wnaeth droseddu yn erbyn rhieni a phlant rhyw ysgol. Fe fynnodd ddweud mewn gwasanaeth boreol wrth y plant nad oedd Siôn Corn yn real, a’i fod wedi ei seilio ar hanes tybiedig Sant Nicholas, a barodd i dri plentyn oedd wedi eu mwrdro ddod yn ôl yn fyw. Tydw i ddim am wneud unrhyw sylw am ddoethineb (neu ddiffyg doethineb) dweud wrth blant 5 – 11 oed nad yw Siôn Corn yn bod.