imageYr oedd proffwydes hefyd, Anna merch Phanuel o lwyth Aser……. A’r awr honno safodd hi gerllaw a moli Duw, a llefaru am y plentyn wrth bawb oedd yn disgwyl rhyddhad Jerwsalem. (‭Luc‬ ‭2‬:‭36‬, 38 BCN)

Mae’r flwyddyn newydd wedi cyrraedd. Diflannodd 2014 dros y gorwel, a dechreuodd 2015. Mi fu rhai ohonoch ar eich traed i weld y flwyddyn newydd i mewn mae’n siwr. Wrth gwrs, does dim gwir wahaniaeth rhwng un diwrnod na’r llall. Eto mae llawer yn cymryd y diwrnod newydd hwn yn gyfle i feddwl am ddechrau newydd. Mae’n adeg pryd y gallwn osod y flwyddyn a fu, gyda’i llwyddiant a’i phroblemau, ei llawenydd a’i siom, o’r neilltu.

Mae’n adeg i feddwl am ddechrau newydd. Efallai bydd rhai ohonoch wedi gwneud addunedau flwyddyn newydd. Byddwch am ddefnyddio’r diwrnod i geisio newid rhywbeth am eich ffordd o fyw. Bydd eraill yn ceisio meddwl beth fydd eich gobeithion am y flwyddyn sy’n dod. Mae yna gynllunio a threfnu, edrych ymlaen, ac efallai i rai mae yna ofni a phryderu am y dyfodol.

Gan ein bod o hyd yn swyddogol yng nghyfnod gŵyl y geni (yn draddodiadol ceid deuddeg diwrnod i’r ŵyl) dyma droi at yr hanes hwnnw unwaith eto. Un o’r cymeriadau na chlywn lawer amdani yn hanes y Nadolig yw Anna y broffwydes. Doedd ganddi ddim rhan mawr yn Nrama’r Geni. Un o’r rhannau bach hynny – cerdded ar y llwyfan am eiliad, ac yna diflannu – gafodd. Ond cawn wybod ychydig amdani.

Roedd hi wedi bod â gobeithion ar un adeg. Fe briododd – ac yn aml y dyddiau hynny roedd merched yn priodi yn ifanc iawn. Wyddom ni ddim am sut y bu arnyn nhw wedi’r uniad. Oedden nhw yn hapus? Ddaru nhw gael llwenydd gyda’i gilydd. Ni ddywedir fod plant o’r briodas, ond mae’n ymddangos yn anhebygol, o ystyried yr hyn a wnaeth wedyn. Beth bynnag oedd ei hanes, fe chwalwyd ei gobeithion wedi saith mlynedd. Bu farw ei gŵr, a dywedir fod Anna wedi byw am flynyddoedd maith fel gwraig weddw. Bellach roedd yn wyth-deg-a-phedair mlwydd oed. Treuliai ei hamser yn y Deml yn Jerwsalem, yn gweddïo ar Dduw, ac yn ymprydio yn aml er mwyn gosod ei bryd ar geisio Duw yn iawn.

Nid dyma’r sgript a ysgrifennodd hi ar gyfer ei bywyd pan oedd yn ferch ifanc. Fel arall roedd pethau i fod. Ond fe chwalwyd ei gobeithion. Fe newidiwyd ei rhan hi yn nrama bywyd. Gafodd hi ddim yr hyn roedd wedi gobeithio amdano. Gallwn ddychmygu ei siom. Byddai yna alar mawr am golli ei gŵr; byddai hefyd ansicrwydd mawr am y dyfodol – roedd gwragedd y dyddiau hynny yn aml yn meddu ar statws yn y gymdeithas yn rhinwedd pwy roedden nhw yn briod ag o. Doedd gweddwon ddim yn aml yn cael rhyw gynhaliaeth na gofal ym myd y ganrif gyntaf. Pwy a ŵyr pa freuddwydion a aeth yn ddim, na pha ddagrau gollwyd yn unigrwydd y nosweithiau hir wedi hynny.

Ond nid chwerwi oedd hanes Anna. Er na ddigwyddodd pethau fel yr oedd wedi gobeithio amdanyn nhw, eto fe gafodd fodlonrwydd mewn llwybr gwahanol. Cofiodd fod Duw yn dda, a’i fod wedi addo pethau mawr i’w bobl. Felly penderfynodd osod ei meddwl ar y rheini. Aeth i geisio Duw yn y deml yn Jerwsalem, a daeth yn amlwg fel rhywun oedd yn gallu dirnad meddwl Duw ar adegau. Anna y broffwydes oedd hon.

Wedi blynyddoedd hir o ddisgwyl, daeth y diwrnod mawr hwnnw pryd y gwelodd Simeon yn cymryd y baban bach yn Ei freichiau a bendithio Duw. Llanwyd hithau ag Ysbryd Duw, a gwelodd yr hyn roedd wedi bod yn hiraethu amdano. Gwelodd fod Duw ar waith, ac mai’r plentyn hwn oedd yn dal cyfrinach ei dyfodol hi, a dyfodol pobl yr Arglwydd.

Yn lle dilyn ei sgript ei hunan, fe sylweddolodd fod gan Dduw sgript wahanol ar ei chyfer. Fe newidiwyd ei gobeithion a’i siomiant. Roedd gan Dduw gynllun ar ei chyfer, ac nid ail orau fyddai’r cynllun hwnnw. Er iddi beidio cael plant ei hunan mae’n debyg, cafodd edrych yn wyneb Mab Duw, a llawenhau yng ngwaredigaeth y Goruchaf.

Beth yw eich gobeithion, neu eich ofnau chi ar ddechrau blwyddyn newydd? Dechreuwch y flwyddyn yn gafael yn y gwirionedd hwn – mae gan Reolwr ac Arglwydd y bydysawd gynllun ar eich cyfer. Efallai mai ychydig a wyddoch chi am y cynllun, ond gallwch fod yn siwr ei fod yn dda. Trwyddo, os mynnwch, cewch ddod i brofi daioni mawr, ac fe ddowch i adnabod Duw yn well. Hwn yw’r Duw ddanfonodd ei Fab i’r byd i farw ar groes yn eich lle. Nid arbedodd Duw ei Fab ei hun, ond ei draddodi i farwolaeth trosom ni oll. Ac os rhoddodd ei Fab, sut y gall beidio â rhoi pob peth i ni gydag ef? (‭Rhufeiniaid‬ ‭8‬:‭32‬ BCN)

Felly rwy’n cymryd y cyfle i ddymuno blwyddyn newydd dda, yn llawn o fendithion annisgwyl yr Arglwydd i chi.

Tad tragwyddoldeb, plygaf ger dy fron,
Ceisiaf dy fendith ddechrau’r flwyddyn hon;
Trwy blygion tywyll ei dyfodol hi,
Arweinydd anffaeledig, arwain fi.

Beth fydd fy rhan ar hyd ei misoedd maith?
Nis gwn, fy Nuw, ni fynnwn wybod chwaith.
Ai hyfryd ddydd, ai nos dymhestlog ddaw?
Bodlon, os caf ymaflyd yn dy law.