imageDarllenwch Ioan 15:18-25

Yr adeg hon o’r flwyddyn mae rhestrau’n cael eu gwneud o bobl sydd wedi cyflawni rhyw bethau arbennig yn ystod y flwyddyn aeth heibio. Bu rhaglenni Sports Personality of the Year cyn y Nadolig, ac fe gyhoeddwyd rhestr anrhydeddau’r frenhines rai dyddiau’n ôl. Tydw i ddim mor hoff o rhain, a phan glywais am restr oedd yn sôn am 100 top Christians, dyma ochenaid o embaras yn dianc o fy ngenau.

Blog ar y we sy’n cynnal y rhestr – archbishopcranmer.com – blog yn edrych ar y byd o safbwynt Anglicanaidd? Rhoddwyd cyfle i’r cyhoedd enwebu a phleidleisio dros yr un mae nhw’n ei ystyried yn deilwng o’r teitl.

Wedi nodi fy ngwrthwynebiad i’r fath beth, mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn falch o fod wedi cael tynnu fy sylw at yr un sydd wedi dod i’r brig eleni. Nassir Hussein yw ei enw – dyn busnes o ddinas Bradford. Fe drodd oddi wrth Islam, i arddel Crist ym 1996. Ers hynny mae wedi dioddef pob math o enllib ac erlid. Mae ef a’i deulu wedi gorfod symud, ond hyd yn oed wedyn mae wedi wynebu pob math o erlid. Ychydig wythnosau yn ôl fe ymosodwyd arno gyda choes bwyell, gan ddiweddu yn yr ysbyty, a’r heddlu yn nodi hwn, fel sawl bygythiad arall, fel trosedd ar sail crefydd.

Fel mae’n digwydd, rwy’n pregethu bore ma ar hanes Steffan, y merthyr cyntaf yn hanes yr eglwys. Peidiwch meddwl fy mod yn pigo ar Islam, nac ychwaith yn mynnu fod Cristnogion ar draws y canrifoedd wedi bod yn ddi-fai. Ond mae’n ffaith hanesyddol mai’r grwp o bobl sydd wedi dioddef fwyaf o erlid yn fyd-eang yw Crstnogion. Fe rybuddiodd Iesu y byddai’r rhai fyddai’n ei ddilyn yn wynebu gwrthwynebiad, erledigaeth a hyd yn oed farwolaeth o ganlyniad i’w ffydd. Rydym fod ymateb drwy garu ein gelynion, a bendithio ein herlidwyr (Mathew 5:43-44). Does dim lle i ni ymateb trwy drais.

Ond nid peth wedi ei gyfyngu i’r Eglwys Fore yw merthyrdod dros Grist. Yn wir, yn ystod y can mlynedd diwethaf lladdwyd mwy o bobl am eu bod yn arddel Crist nag erioed o’r blaen. Mae cannoedd o filoedd wedi eu lladd yn y degawd diwethaf oherwydd eu bod yn mynnu galw eu hunain yn Gristnogion. Heddiw mewn gwledydd ar hyd a lled ein byd o’r Dwyrain Canol i rannau o India, o Indonesia i Mexico, mae eglwysi’n cael eu llosgi, a Christnogion yn cael eu bygwth a’u lladd.

Beth am i ni heddiw gofio’r rhai hynny y mae eu ffydd yn costio’n ddrud iddyn nhw. A beth am i ninnau holi os fedrwn ni wneud 2016 yn flwyddyn lle bydd gan y byd ddigon o reswm i ni gael ein hadnabod fel pobl Crist – boed hynny’n dwyn edmygedd neu erledigaeth a gwrthwynebiad y byd.