Diwrnod olaf y Nadolig

imageDarllenwch Ioan 14:1-14

Rydw i newydd fod yn yr orsaf drenau, yn ffarwelio â Heledd wrth iddi ddychwelyd i Košice tan yr haf. Mae’r ffarwelio hyn yn digwydd yn rheolaidd bellach, a hithau ar ei phumed blwyddyn yno. Ond er fy mod yn gyfarwydd â’i gweld yn mynd, mae yna ryw elfen o chwithdod bob tro. Yr hyn sy’n pylu’r chwithdod hwnnw yw’r gobaith y caf ei gweld eto cyn bo hir wrth iddi ddod yn ôl atom yn yr haf. (rhagor…)

Cristnogion dan bwysau

imageDarllenwch Ioan 15:18-25

Yr adeg hon o’r flwyddyn mae rhestrau’n cael eu gwneud o bobl sydd wedi cyflawni rhyw bethau arbennig yn ystod y flwyddyn aeth heibio. Bu rhaglenni Sports Personality of the Year cyn y Nadolig, ac fe gyhoeddwyd rhestr anrhydeddau’r frenhines rai dyddiau’n ôl. Tydw i ddim mor hoff o rhain, a phan glywais am restr oedd yn sôn am 100 top Christians, dyma ochenaid o embaras yn dianc o fy ngenau. (rhagor…)

Adduned Blwyddyn Newydd

imageDarllenwch Salm 1

Dyma ni wedi dechrau ar wythos yr addunedau. Mae llawer yn dewis cymryd dechrau blwyddyn fel amser i geisio newid rhywbeth yn y ffordd mae nhw’ byw. Bydd ceir wedi parcio y tu allan i’r “gym” lleol yn dangos awydd rhai beth gynnag i wneud mwy o ymarfer corff. Bydd sawl un wedi dechrau ar ddeiet, yn enwedig ar ôl gwledda dros y Nadolig. Mae amryw yn cael eu hannog i fynd am fis heb alcohol. (rhagor…)

Blwyddyn Newydd

Delw'r duw Janus yn edrych yn ôl ac ymlaenDarllenwch Philipiaid 3:7-14

Cyrhaeddodd diwrnod olaf y flwyddyn – diwrnod y bydd llawer yn oedi i edrych yn ôl ar yr hyn fu yn ystod y deuddeg mis diwethaf. Gallwn gofio digwyddiadau amlwg cyhoeddus, o gyflafan swyddfeydd Charlie Hebdo ddechrau Ionawr ac argyfwng y ffoaduriaid i lwyddiant tîm tennis Prydain yng Nghwpan Davis a chynnwrf Tim Peake yn mentro i’r gofod. Ond i’r rhan fwyaf ohonom, digwyddiadau personol fydd yn llenwi ein atgofion. (rhagor…)

Nadolig 2014, 8

image“Ewch, a chwiliwch yn fanwl am y plentyn, a phan fyddwch wedi dod o hyd iddo, rhowch wybod i mi er mwyn i minnau hefyd fynd a’i addoli.” (‭Mathew‬ ‭2‬:‭8‬ BCN)

Beth tybed fydd yn digwydd yn ystod y flwyddyn nesaf hon? Mae’r cyfryngau yn ceisio dyfalu a phroffwydo sut flwyddyn fydd hi. Mae yna ddarogan mwy o gythrwfl yn y Dwyrain Canol. Mae’r rhai sydd â diddordeb mewn chwaraeon yn rhagweld pwy fydd yn ennill y cynghreiriau pel droed. (rhagor…)

Nadolig 2014, 7 Blwyddyn newydd dda

imageYr oedd proffwydes hefyd, Anna merch Phanuel o lwyth Aser……. A’r awr honno safodd hi gerllaw a moli Duw, a llefaru am y plentyn wrth bawb oedd yn disgwyl rhyddhad Jerwsalem. (‭Luc‬ ‭2‬:‭36‬, 38 BCN)

Mae’r flwyddyn newydd wedi cyrraedd. Diflannodd 2014 dros y gorwel, a dechreuodd 2015. Mi fu rhai ohonoch ar eich traed i weld y flwyddyn newydd i mewn mae’n siwr. Wrth gwrs, does dim gwir wahaniaeth rhwng un diwrnod na’r llall. Eto mae llawer yn cymryd y diwrnod newydd hwn yn gyfle i feddwl am ddechrau newydd. Mae’n adeg pryd y gallwn osod y flwyddyn a fu, gyda’i llwyddiant a’i phroblemau, ei llawenydd a’i siom, o’r neilltu. (rhagor…)

Diwedd y Gwyliau

images (9)Dyma ni wedi cyrraedd diwedd y gwyliau Nadolig yn ôl yr hen draddodiad. Mae’r paratoi dros dymor yr Adfent, a’r dathlu dros ddeuddeg diwrnod yn dod i ben heddiw. Yfory bydd llawer yn tynnu’r addurniadau i lawr, a bydd bywyd yn dychwelyd i normalrwydd mis Ionawr. Bydd y plant yn dychwelyd i’r ysgolion, y myfyrwyr i’r colegau a phawb arall i’w gorchwylion a’u gwaith. Bywyd normal, cyfarwydd wrth i ni gerdded llwybr bywyd trwy flwyddyn arall. (rhagor…)

“Ffordd na chenfydd llygad barcut”

images (8)Mae’r flwyddyn sy’n ymestyn o’n blaen yn llawn o brofiadau gwahanol i bob un ohonom. Wyddom ni ddim beth ddaw. Tydi hynny ddim yn golygu fod yn rhaid i ni bryderu am yr hyn a ddaw. Un ffordd o dawelu ein pryderon yw edrych yn ôl ar y rhai sydd wedi mynd o’n blaen. Mae yna rhyw falchder ynom weithiau, sy’n mynnu bod ein hanes ni yn wahanol i hanes pawb arall. Mae datblygiadau ein hoes ni yn golygu fod ein hamgylchiadau yn gymaint mwy heriol na’r oesau a fu. Does yna neb sydd wedi wynebu sefyllfa mor anodd â ni. (rhagor…)