image“Ewch, a chwiliwch yn fanwl am y plentyn, a phan fyddwch wedi dod o hyd iddo, rhowch wybod i mi er mwyn i minnau hefyd fynd a’i addoli.” (‭Mathew‬ ‭2‬:‭8‬ BCN)

Beth tybed fydd yn digwydd yn ystod y flwyddyn nesaf hon? Mae’r cyfryngau yn ceisio dyfalu a phroffwydo sut flwyddyn fydd hi. Mae yna ddarogan mwy o gythrwfl yn y Dwyrain Canol. Mae’r rhai sydd â diddordeb mewn chwaraeon yn rhagweld pwy fydd yn ennill y cynghreiriau pel droed.

Mae eraill yn sôn am pa ddatblygiadau newydd a welwn ym myd technoleg, neu lle China yn economeg y byd.

Un peth sydd ar y gorwel i ni ym Mhrydain eleni yw etholiad cyffredinol. Bydd rhaid dewis llywodraeth newydd. Dyma gwestiwn sydd yn mynd i lenwi mwy a mwy o’r penawdau newyddion. Pa faint o lwyddiant gaiff UKIP? Beth fydd yn digwydd yn yr Alban wedi’r refferendwm, a chynydd amlwg yn y blaid genedlaethol yno? A fydd gennym lywodraeth grog unwaith eto?

Er nad yw ein pleidlais unigol ni yn ymddangos yn bwysig, eto yn y pen draw dyna fydd yn penderfynu pwy gaiff lywodraethu yn y wlad. Bydd pob un ohonom ni yn gwneud dewis. Bydd hyd yn oed y rhai sy’n dewis peidio pleidleisio yn cael dylanwad ar y canlyniad, gan fydd eu diffyg pleidlais yn rhoi mwy o rym i bleidlais y gweddill. Rhaid i ni ddewis pwy fynnwn ei gael i lywodraethu arnom.

Mae hanes y Nadolig yn gofyn cwestiwn tebyg, ond mewn ffordd llawer mwy sylfaenol. Pwy fynnwn ni ei gael i lywodraethu arnom? Nid cwestiwn gwleidyddol mohono. Ond mae’n un sy’n wynebu pob un ddaw wyneb yn wyneb â phlentyn Mair. Daeth y seryddion i Jerwsalem a holi, “Ble mae’r hwn a anwyd yn frenin yr Iddewon? Oherwydd gwelsom ei seren ef ar ei chyfodiad, a daethom i’w addoli.”(‭Mathew‬ ‭2‬:‭2 BCN) Wynebwyd Herod gyda’r dewis – beth wna i gyda’r plentyn – ei addoli ynteu ei ladd?

Wrth gwrs, yr ateb cyhoeddus roddwyd i’r seryddion oedd: rhowch wybod i mi er mwyn i minnau hefyd fynd a’i addoli.” (‭Mathew‬ ‭2‬:‭8‬ BCN)” ond roedd calon Herod yn dweud yn wahanol.

Yn ystod ei oes ar y ddaear gwelwn bobl yn gyson yn cael eu wynebu gyda’r un dewis: o bobl Nasareth, pan aeth Iesu i siarad yn eu synagog ( codasant, a bwriasant ef allan o’r dref a mynd ag ef hyd at ael y bryn yr oedd eu tref wedi ei hadeiladu arno, i’w luchio o’r clogwyn. (‭Luc‬ ‭4‬:‭29‬ BCN);)  i dyrfa Jerwsalem ( “Beth, ynteu, a wnaf â Iesu a elwir y Meseia?” gofynnodd Pilat iddynt. Atebasant i gyd, “Croeshoelier ef.” (‭Mathew‬ ‭27‬:‭22‬ BCN) ). O seryddion y Dwyrain, i Thomas, yr amheuwr (Yna meddai wrth Thomas, “Estyn dy fys yma. Edrych ar fy nwylo. Estyn dy law a’i rhoi yn fy ystlys. A phaid â bod yn anghredadun, bydd yn gredadun.” Atebodd Thomas ef, “Fy Arglwydd a’m Duw!” (‭Ioan‬ ‭20‬:‭27-28‬ BCN) )

Dyma ddewis sydd raid i ni ei wneud heddiw, a phob diwrnod yn ystod y flwyddyn hon. Rydym yn clywed llawer o sôn am hawliau dynol yn ein hoes ni. Nid wyf am wadu ein cyfrifoldeb i ofalu am, a pharchu ein cyd-ddyn. Ond heddiw mae hanes y geni yn gofyn i ni roi heibio pob hawl sydd gennym, a’i drosglwyddo i Frenin preseb Bethlehem.

Ac un o’r prif resymau dros wneud hynny yw ei fod Ef, ac yntau’n Arglwydd y nef, wedi rhoi heibio pob hawl oedd ganddo, i ddod a gorwedd mewn preseb, ac i hongian ar groes trosom ni.