Nadolig 6

imageDarllenwch 1 Thesaloniaid 4:13-18

Rydym wedi bod yn meddwl llawer yn ystod y mis hwn am Fab Duw yn dod i’n byd mewn baban bach. Gyda’r flwyddyn yn dod i ben ac amser yn brysio heibio, mae’n werth cofio mai rhan o stori fawr oedd dyfodiad Iesu. Mae’r Beibl yn dweud ei fod yn mynd i ddod eilwaith i’n byd. (rhagor…)

Nadolig 2014, 11

imageOherwydd pan floeddir y gorchymyn, pan fydd yr archangel yn galw ac utgorn Duw yn seinio, bydd yr Arglwydd ei hun yn disgyn o’r nef; (1 Thesaloniaid‬ ‭4‬:‭16‬ BCN)

Mae heddiw yn ddiwrnod i ffarwelio yn ein tŷ ni. Mae ein merch, Heledd, sydd wedi bod adref am bythefnos dros ŵyl y Nadolig, yn dychwelyd i Slovakia, lle mae’n gweithio i sefydlu Undebau Cristnogol yn y prifysgolion yno. Bu’n braf iawn ei chael adref, ond mae’n gorfod mynd yn ôl yno heddiw, ac wedi brecwast fe fyddwn yn mynd â hi i faes awyr Manceinion. (rhagor…)

Nadolig 12

Dyma ni wedi cyrraedd dydd gŵyl Ystwyll, sy’n nodi diwedd tymor y Nadolig. Dathlwyd y dydd hwn i gofio’r doethion o’r Dwyrain yn dod i addoli’r Brenin yn y crud. Rydym ninnau wedi cael cyfle dros bump wythnos i feddwl am arwyddocád y wyrth fwyaf erioed – Duw ymddangosodd yn y cnawd. (rhagor…)