imageDarllenwch Actau 2:1 – 13

Fore heddiw roeddwn yn gorwedd yn fy ngwely yn meddwl am godi i fynd â’r ci am dro. Mae’r dyddiau diwethaf wedi bod yn ddigon gwlyb, ond nid y glaw oedd i’w glywed bore ‘ma. Yn hytrach na hynny, sŵn y gwynt yn rhuo oddi amgylch y tŷ. Ac wrth fentro allan yn y tywyllwch, roedd ei effaith i’w weld wrth i sbwriel strydoedd Bangor gael ei chwythu oddi ar y lonydd.

Ddoe roeddwn yn dweud fod angen i ni sy’n dilyn Crist gymryd y cyfle i ddweud wrth bobl am y gobaith sydd ynom mewn dyddiau tywyll. Y cwestiwn fydd ambell un yn ei holi yw, sut fedrwn ni wneud i bobl glywed a gwrando ar ein neges? Mae cymaint o leisiau eraill yn llenwi’r awyr yn ein cymdeithas. Heddiw bydd sylw pawb ar Syria a phenderfyniad yr aelodau seneddol yn Llundain. A’r mis hwn bydd y cyfryngau a’r siopau yn gweiddi’n uchel wrth ein denu i gymryd sylw o’u nwyddau.
Wrth gwrs, ar un olwg fedrwn ni ddim gobeithio cystadlu â nhw. Does gennym mo’r adnoddau i gynhyrchu hysbysebion slic, na’r cysylltiadau i wneud yn siwr fod ein llais i’w glywed ar y cyfryngau. Gwelsom fel y gwrthododd cwmni DCM ddangos hysbyseb yr Eglwys Anglicanaidd yn eu sinemáu yn ddiweddar.
Tra’n cydnabod y dylem ddefnyddio’n dychymyg wrth gyflwyno neges y Nadolig i’r byd, dim yn y fan honno y gwelwn y fuddugoliaeth. Dim ond un peth wnaiff wneud i bobl gymryd sylw. Yn Jerwsalem llwyddodd criw bychan annysgedig o ddilwynwyr Iesu droi’r ddinas ar ei phen i lawr, pan ddaeth yr Ysbryd Glân arnyn nhw mewn ffordd arbennig. Duw ei hun oedd yn argyhoeddi pobl, a daeth yr Ysbryd fel sŵn gwynt nerthol yn rhuo i anfon yr apostolion allan i ddweud wrth y dyrfa am “fawrion weithredoedd Duw.”
Beth am weddïo heddiw am i’r Ysbryd Glân ddod atom mewn ffordd fydd yn golygu fod pobl yn clywed neges y Nadolig trwom ni eleni, ac os daw fel awel dyner i ddenu, neu fel corwynt nerthol, fe fydd llais Duw i’w glywed. Fe fydd yn gryfach na’r holl leisiau eraill, ac yn treiddio’n ddyfnach nag unrhyw neges all y byd ei chyhoeddi.

Arglwydd, danfon dy leferydd,
Heddiw, yn ei rwysg a’i rym;
Dangos fod dy lais yn gryfach
Nag all dyn wrthsefyll ddim;
Cerdd ymlaen, nefol dân,
Cymer yma feddiant glân.