imageDarllenwch Luc 1:26-38

Rhan fawr o’r Nadolig i lawer yw’r anrhegion. Mae hynny wrth gwrs yn golygu y bydd ambell un wrthi mewn panic yn rhuthro i’r siopau heddiw neu hyd yn oed yfory yn chwilio am yr anrheg munud olaf hwnnw. Cawn y jôcs blynyddol am yr anrhegion anaddas (y siwmper nadolig llachar) neu anniddorol (pâr arall o sannau!).

Ond os yw meddwl beth i’w roi yn broblem i rai, mae’r modd yr ydym yn derbyn anrheg yn dangos llawer amdanom. Mae hyn yn arbennig o wir os yw’r anrheg yn un annisgwyl, ac efallai ddim yr hyn roeddem yn gobeithio ei dderbyn. Ac wrth gwrs, o feddwl yn ehangach na’r hyn a roddwn ni i’n gilydd, yn aml mae’r pethau ddaw i ni o law Duw yn ein wynebu â phenderfyniad anodd.

Cymrwch chi Mair. Roedd yn ferch ifanc, yn wynebu bywyd digon arferol i bob golwg. Roedd wedi ei dyweddïo i Joseff, a map ei bywyd wedi ei osod allan yn ddigon clir. Byddai’n priodi, cael teulu, magu’r plant a gofalu am ei gŵr, ac yn ei henaint yn gobeithio dal plant ei phlant ar ei glin. Ond roedd Duw gyda chynllun gwahanol iawn ar ei chyfer. Byddai’n cael plentyn yn gynt nag oedd wedi ei ddisgwyl, a’r plentyn hwnnw yn wahanol i bob plentyn arall a anwyd erioed. Dyma anrheg annisgwyl, ac ar un olwg anrheg hynod o anghyfleus.

imagePwy fyddai’n credu ei stori am Gabriel yn ymweld â hi? Beth fyddai Joseff yn ei ddweud? Beth am y sgandal ymhlith ei theulu a’i chymdogion? Wyddai hi ddim a fyddai’r bobl yn ei gwrthod, neu hyd yn oed ei llabyddio gan feddwl iddi gyflawni pechod mawr a dod yn feichiog cyn priodi.

Ond sylwch ar ei hymateb. ‘A dyma Mair yn dweud, “Dw i eisiau gwasanaethu’r Arglwydd Dduw. Felly gad i beth rwyt wedi ei ddweud ddod yn wir.” (Luc‬ ‭1:38‬ ‭BNET‬‬)
Mae’n derbyn yr anrheg yn gyntaf, a hynny mewn ffydd – mae’n derbyn yr hyn mae Duw am ei roi iddi gan gredu fod Duw yn dda, ac y gwnaiff ddaioni trwy hyn. Mae’n ei dderbyn mewn ffydd fod Duw yn y peth sy’n digwydd iddi. (Ymhen ychydig mae Elisabeth yn dweud amdani ‘Gwyn ei byd yr hon a gredodd y cyflawnid yr hyn a lefarwyd wrthi gan yr Arglwydd.”’ (Luc‬ ‭1:45‬ ‭BCN‬‬))

Mae’n troi y cyfan yn ôl at Dduw mewn rhyw ystyr. Mae fel petai’n dweud – “Rydw i am dderbyn yr anrheg, ond rhaid i ti ei ddefnyddio i fod yn rhan o dy gynllun mawr di dy hun. Os galla i trwy wynebu hyn i gyd fod o wasanaeth i Ti, yna dwi’n fwy na pharod i ti fy arwain drwy hyn.” Tydi hi ddim yn derbyn mewn modd hunanol, ond yn rhoi ei hun yn nwylo’r Rhoddwr.

Yn drydydd mae’n llawenau – wrth ymweld ag Elisabeth fe gawn eiriau cofiadwy cân Mair:
Y mae fy enaid yn mawrhau’r Arglwydd, A’m hysbryd a lawenychodd yn Nuw fy Iachawdwr. Canys efe a edrychodd ar waeledd ei wasanaethyddes: oblegid, wele, o hyn allan yr holl genedlaethau a’m geilw yn wynfydedig.’ (Luc‬ ‭1:46-48‬ ‭BWM‬‬) Mae’r Beibl yn sôn mewn un man am roddwr llawen, ond dyma dderbyniwr llawen – un sy’n ddiolchgar yn ei hamgylchiadau er eu bod ar lawer ystyr yn anodd ac anghyfleus.

Sut ydym ni am dderbyn rhagluniaethau annisgwyl ac anodd Duw tybed? A allwn ni fel Mair ymateb mewn ffydd, gan droi’r cwbl yn ôl at Dduw yn llawen? O wneud hyn, er na fyddwn yn gweld yr hyn welodd Mair, eto bydd Duw yn gallu ein defnyddio fel cyfryngau i’w fendith ddod i’n byd.