imageDarllenwch Ioan 18:33-38

Un o’r geiriau mae Ben, ein ŵyr bach tair mlwydd oed, wedi ei ddarganfod yn ystod y misoedd diwethaf ydi “Pam?” Dro ar ôl tro, wrth i mi dynnu ei sylw at rywbeth neu  pan fydda i’n dweud wrtho fo am wneud rhywbeth, fe ddaw’r cwestiwn “Pam?” Mae’n un o’r pethau hynny sy’n gosod dyn arwahán i greaduriaid eraill ar y ddaear yma. Mae’r gallu i gwestiynu, ac i geisio deall y rheswm y tu ôl i ddigwyddiadau a bodolaeth y byd yn ran o’n harbenigrwydd ni.

Eto mae’n syndod mor ddifeddwl y gallwn ni fod. Sawl tro rydym wedi canu carolau heb feddwl am ystyr yr hyn rydym yn ei ganu? Faint o arferion a thraddodiadau nadoligaidd ydym yn eu dilyn, heb ystyried pam ein bod yn gwneud hynny? Wrth gwrs, does dim angen rheswm dwfn dros rai arferion. Y rheswm rydw i’n bwyta mins peis adeg yma’r flwyddyn ydi fy mod yn eu hoffi – ac mae hynny’n ddigon o reswm. Ond mae yna bethau mwy. Y dylem fod yn meddwl amdanyn nhw, ac yn gofyn cwesriwn Ben: “Pam?”

Y mwyaf y gallwn ei holi adeg y Nadolig yw “Pam ganwyd Iesu?” Ac un ffordd o ateb hynny yw edrych ar y gwahanol resymau rydym yn eu darganfod yn y Beibl. Dyma rai ohonyn nhw:

Er mwyn hyn yr wyf fi wedi cael fy ngeni, ac er mwyn hyn y deuthum i’r byd, i dystiolaethu i’r gwirionedd.” (Ioan‬ ‭18:37‬ ‭BCN‬‬) Geiriau Iesu wrth Peilat, pan ofynnodd hwnnw i’r Gwaredwr os oedd wir yn frenin. Mae ymateb Pilat “Beth yw gwirioned?” yn ffitio’n dda i ysbryd ein hoes ni sy’ mynnu nad oes yna wirioneddau absoliwt. Ond mae’r un allai ddweud “Myfi yw’r gwironedd” (Ioan 14:6), ac a elwir “Y Tyst ffyddlon a gwir” (Datguddiad 3:14), yn mynnu bod y fath beth â gwironedd yn bod. Os am edrych am ffeithiau gallwn droi at wyddoniaeth, ac os am ddiddanwch gallwn droi at bethau eraill. Ond os am wybod y gwirionedd am ystyr bywyd, am gyflwr dyn, am esboniad ar ein byd a’i hanes, yna dim ond mewn un man gallwn ddod o hyd iddo – yn yr Un ddaeth i dystio am y gwirionedd.

Y rheswm pam ddaeth Mab Duw i’r byd oedd i ddinistrio gwaith y diafol.’ (1 Ioan‬ ‭3:8‬ ‭BNET‬‬) Dyma ffordd arall mae’r Beibl yn ateb y cwestiwn. Fe welsom ni rai wythnosau’n ôl mai trasiedi ein byd a’n cyflwr yw i’n rhieni cyntaf wrando ar y Diafol yng ngardd Eden. Bwriad y diafol oedd difwyno’r hyn oedd yn adlewyrchu Duw fwyaf yn y greadigaeth – dyn a grewyd ar ei lun a’i ddelw. Ond daeth Iesu er mwyn dad-wneud y dinystr, a datod y llanast mawr sydd yn ein byd o ganlyniad i dwyll diafol.

Daeth Mab y Dyn i geisio ac i achub y colledig.”’ (Luc‬ ‭19:10‬ ‭BCN‬‬) Doedd neb yn meddwl y byddai Sacheus yn un y byddai Duw â diddordeb ynddo. Dyn hunanol a thwyllodrus oedd hwn yn y cyfan roedd yn ei wneud. Ond pan alwodd Iesu ef i lawr o’i eisteddle fregus ar gangen yn y goeden, dyma droi ei fywyd ar ei waered – neu yn hytrach ei droi y ffordd iawn i fyny. Wrth gwrs, nid Sacheus yw’r unig un sy’n golledig. Dyma’n cyflwr i gyd wrth natur. Ond mae Un wedi dod i’n ceisio, a’n cadw. Dyma’r Bugail da.

Oherwydd Mab y Dyn, yntau, ni ddaeth i gael ei wasanaethu ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer.”’ (Marc‬ ‭10:45‬ ‭BCN‬‬) Dyma ddod â ni at graidd yr ateb i’r cwestiwn mawr “Pam?” Perygl y Nadolig yw i wahanu’r hanes hwn oddi wrth gweddill y stori. Gallwn ddisgyn wedyn i ryw sentimentaliaeth ynglŷn â’r seren a’r doethion a’r bugeiliaid ac ati. Ond stori oedd yn rhwym o arwain at groes Calfaria yw hon. Oherwydd rhaid talu pris am ein rhyddid. Rhaid talu Iawn am ein pechod. Rhaid i ni sy’n gaeth i bechod gael ein prynu – a’r pridwerth oedd bywyd di-fai ein Harglwydd a’n Gwaredwr. Dyma’r Bugail ddaeth i fod yn Oen Duw. Dyma’r un wrthododd redeg i ffwrdd pan ddaeth y blaidd, ond y Bugail da roddodd ei fywyd dros y defaid.

Beth am i chi, wedi i bethau dawelu heddiw, fynd ati i edrych am danodau eraill sy’n atbe y cwestiwn “Pam y ganwyd Iesu?” Mae digon ohonyn nhw i’w darganfod.