imageI lawer ohonom mae’r Nadolig yn dwyn atgofion i ni o’n plentyndod. Roedd y cynnwrf wrth i ni ddysgu geiriau’r ddrama Nadolig, neu wrth weld y nwyddau yn y siopau a pharatoi’r addurniadau yn gosod naws arbennig i’r tymor.

Un o’r atgofion sydd gen i yw eistedd yn Festri’r capel yn Aberystwyth a chlywed geiriau’r hen garol ladin: O! Tyred Di, Emaniwel. Unwaith roeddwn yn clywed nodau cyntaf y garol yn cael eu chwarae, roeddwn yn gwybod fod y Nadolig ar y trothwy.

Erbyn heddiw rwy’n deall y geiriau’n well, ac yn gweld fel yr oedd yr awdur wedi clymu ar addewidion a chysgodion yr Hen Destament – yr addewidion ddaeth yn obaith i rai oedd yn disgwyl y Meseia yn Israel. Mae’r hiraeth dwys am gael profi Duw gyda ni yn cael ei ateb yn orfoleddus yn y gytgan syml ar ddiwedd bob pennill. Beth am gymryd amser heddiw i edrych i fyny rhai o’r cyfeiriadau sy’n y garol hon, ac ymuno gyda saint sydd ar draws y canrifoedd wedi gallu llawenhau yn y baban oedd yn cyflawni’r addewidion i gyd.

O! Tyred Di, Emaniwel
A datod rwymau Isräel,
Sydd yma’n alltud unig trist,
Hyd ddydd datguddiad Iesu Grist;
O! cân! O! cân:
Emaniwel
Ddaw atat ti, O! Isräel.

O! tyred, Arglwydd, yn dy nerth,
Tydi yr hwn ar Seina serth
gyhoeddaist gynt dy ddeddfau glân,
mewn mawredd a chymylau tân:
O! cân! O! cân:
Emaniwel
Ddaw atat ti, O! Isräel.

O! tyrd Flaguryn Jesse’n awr,
A dryllia allu’r gelyn mawr;
Rho fuddugoliaeth trwy dy wedd
Ar uffern ddofn, ac ofn y bedd:
O! cân! O! cân:
Emaniwel
Ddaw atat ti, O! Isräel.

O! tyred, Olau’r Seren Ddydd,
Diddana ein calonnau prudd:
O! gwasgar ddu gymylau braw,
A chysgod angau gilia draw:
O! cân! O! cân:
Emaniwel
Ddaw atat ti, O! Isräel.

O! tyrd, Fab Dafydd, agor Di,
Yn llydain byrth y nef i ni:
Palmanta’r ffordd sy’n arwain fry,
A chau holl lwybrau pechod hy:
O! cân! O! cân:
Emaniwel
Ddaw atat ti, O! Isräel.