imageMae’r llifogydd mawr yng ngogledd Lloegr wedi bod yn llenwi’r newyddion ers y penythnos. Pwy all beidio â chydymdeimlo â’r llaweroedd sydd yn gorfod ad-drefnu pob dim wedi’r llanast i gyd. Un o’r pethau sydd wedi fy nharo ydi’r arfer newydd o roi enw i’r storm. Bellach nid y tywydd sy’n gyfrifol, ond Desmond. Mae personoli’r digwyddiad rhywsut yn ei gwneud hi’n haws mynegi ein dicter, ein siom, ein rhwystredigaeth. Gallwn enwi ein gelyn bellach. (Ond druan o unrhyw un sy’n dwyn yr enw “Desmond”!)

Gwrthod enwi wnaeth ein rhieni cyntaf yng Ngardd Eden. Roedden nhw wedi gosod yno gan Dduw oedd yn dda a thrugarog. Ond dyma dorri ei orchymyn drwy fwyta o bren gwybodaeth da a drwg. Pan ddaeth Duw yn hwyr y dydd atyn nhw, eu hymateb cyntaf oedd cuddio ymhlith coed yr ardd. Pan holodd Duw ble oedd sôn cyfeiriodd at y ffaith ei fod yn noeth wnaeth – nid oedd yn gallu enwi’r weithred o dorri gorchymyn ei Grëwr. Yna fe geisiodd guddio ei weithred mewn esgusodion. Fe bwyntiodd Adda at ei wraig, a dweud mai hi roddodd y ffrwyth iddo, a hithau yn ei thro yn pwyntio at y sarff. (Genesis 3:8-13)

Roedd yna enw cwbl syml am eu gweithred – pechod; ac roedd yna enw newydd ar Adda ei hun – pechadur. Ond doedd o ddim am ei ddefnyddio. Felly yn ein cymdeithas ni rydym yn amharod i arddel yr enw. Ceisiwn esbonio ein cyflwr yn nhermau ein cymdeithas, ein genynnau, ein hamgylchiadau, y bobl o’n cwmpas. Ond heb enwi ein gelyn yn iawn fedrwn ni ddim dod o hyd i’r ateb i’n cyflwr. Fydd llawenydd y Nadolig o wybod fod Un wedi dod sy’n gallu concro ein gwrthwynebydd ddim yn gyflawn.

Gwahanol oedd ymateb Eseia (Eseia 6:5), neu Pedr (Luc 5:8). Gadewch i ni fod yn blaen, heb geisio y tu ôl i ryw extenuating circumstances. Oherwydd mae storm waeth na storm Desmond ar y ffordd i’r rhai sy’n gwrthod edifarhau.

O’th flaen, o Dduw rwy’n dyfod
Gan sefyll o hirbell.
Pechadur yw fy enw:
Ni feddaf enw gwell.