Edrych i lawr ar yr Areopagus o'r Acropolis

Edrych i lawr ar yr Areopagus o’r Acropolis

Darllenwch Genesis 12:1-2

Rwyf yn Athen yr wythnos hon yn cymryd rhan mewn cynhadledd lle mae tua wythdeg ohonom yn dilyn chwe ffrwd gwahanol o astudio. Rwyf fi mewn criw o wyth yn edrych ar sut mae dadlau o blaid y ffydd Gristnogol, a hynny men ffordd sy’n onest, yn ddifrifol, gan geisio codi cwestiynau difrifol yn wyneb y gwrthwynebiad sydd i’r ffydd yn ein dyddiau ni.

Un o’r pethau braf am gyfarfodydd o’r fath yw’r amrywiaeth o bobl sydd yma. Rydym yn dod o nifer o wahanol wledydd – cawn ein harwain gan Americanwr. Rwy’n rhannu ystafell gyda gyrrwr peiriannau codi o Sweden; yna mae dau weinidog o Serbia, un sy’n arwain cwmni meddalwedd o Rwmania,  Gwyddel sy’n nyrsio rhai drwy eu dyddiau olaf, ac un Ethiopia sy’n gweithio ymhlith Moslemiaid yn Llundain. Byddai’n anodd dod o hyd i rai mwy amrywiol o ran oedran, cefndir a diddordebau. Ond mae un peth yn ein clymu wrth ein gilydd. Rydym i gyd wedi profi cariad Duw ac Iesu Grist fel realiti yn ein bywydau.

Nid dod ar gyfer yr Iddewon yn unig wnaeth Iesu. Rhoddwyd yr addewid i Abraham y byddai holl deuluoedd y ddaear yn cael eu bendithio ynddo ef. Cawn addewidion tebyg yn frith drwy’r Hen Destament. Rhai o’r cyntaf i ddod i addoli’r baban oedd sêr ddewiniaid o’r Dwyrain, efallai o Fabilon, a gorchymyn Iesu i’w ddisgyblion wrth iddo eu gadael oedd ‘Ewch gan hynny a dysgwch yr holl genhedloedd. (Mathew‬ ‭28:19) mae’r gwahoddiad at Grist yn eang.

Ac wrth gwrs, nid rhywbeth ar gyfer un oes oedd  efengyl Iesu. Rydym yma yn trafod y neges yr oedd yr Apostol Paul yn ei rhannu yn y lle hwn bron i ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, ac mae mor berthnasol heddiw ag oedd hi y pryd hynny.

Felly pwy bynnag welwch chi heddiw, ble bynnag byddwch chi, ceisiwch fod fel yr un ddywedodd ‘Nid oes arnaf gywilydd o’r Efengyl, oherwydd gallu Duw yw hi ar waith er iachawdwriaeth i bob un sy’n credu, yr Iddewon yn gyntaf a hefyd y Groegiaid.’
‭‭Rhufeiniaid‬ ‭1:16‬ ‭BCN‬‬