imageDarllenwch Luc 2:1-7

Mae’n byd ni’n un prysur. Ar yr awyren ar y ffordd yn ôl o Athen neithiwr roedd nifer fawr o gefnogwyr pêl droed. Roedden nhw wedi bod yno ar gyfer gêm Arsenal yn erbyn Olympiakos – gêm bwysig iawn yr oedd yn rhaid iddyn nhw ei ennill yn dda os am barhau yng nghyngrair y pencampwyr yn Ewrop.

Ond er mor bwysig oedd y gêm iddyn nhw, doeddwn i ddim yn y wybodol o unrhyw beth arbennig yn digwydd yn y ddinas. Roeddwn i yn mwynhau pryd o fwyd groegaidd mewn bwyty gyda’r criw ohonom oedd wedi dod i dreulio dyddiau yn edrych ar y ffyrdd gorau o egluro’r efengyl. Doedd yna ddim sôn am gicio pêl yn ein sgwrs. Ac wrth gwrs, go brin fod unrhyw un o gefnogwyr Arsenal yn ymwybodol ein bod ni yno yn trafod pethau mawr. Mae pawb yn brysur yn gwneud yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw.

Doedd pobl Bethlehem ddim yn ymwybodol fod yna unrhywbeth arbennig yn digwydd yn eu dinas nhw un noson. Roedd ganddyn nhw bethau eraill oedd yn cymryd eu bryd. Ond yno fe anwyd un fyddai’n newid nid yn unig hanes eu dinas nhw, ond hanes y byd a thragwyddoldeb. Bellach byddai Bethlehem yn cael ei hadnabod fel y ddinas nad oedd ganddi le yn y llety i Frenin yr angylion. Pe bydden nhw wedi sylweddoli, yna mi fyddai stori’r Nadolig yn bur wahanol mae’n siwr. Mi fyddai ein carolau i gyd yn gorfod cael eu newid – dim sôn am breseb yr anifail na’r gwely o wair. Ond y gwir yw fod yn rhaid i’r ddinas ddwyn y cywilydd o fod yn cysgu pan anwyd Gwaredwr y byd.

Beth sy’n digwydd yn ein dydd ni, ac ar beth mae ein bryd ni tybed? A fyddwn ni yn cael ein cofio mewn blynyddoedd i ddod fel cenhedlaeth oedd yn cysgu pan oedd pethau mawr yn digwydd? A oeddem yn rhy swrth i sylwi fod cenhedlaeth wedi tyfu sy ddim yn gwybod pam y ganwyd Crist? A gawn ein cofio fel rhai oedd yn swatio’n gyfforddus yn ein tai tra roedd cenhedlaeth yn wynebu tragwyddoldeb heb glywed y newyddion da o lawenydd mawr?

meddai ei feistr wrtho, ‘Dos allan i’r ffyrdd ac i’r cloddiau, a myn ganddynt hwy ddod i mewn, fel y llenwir fy nhŷ;’
‭‭Luc‬ ‭14:23‬ ‭BCN‬‬