imageDarllenwch Mathew 1:18-25

Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng,
A Duw ar drai ar orwel pell;

Dyna fel y mynegodd Hedd Wyn ei deimladau wrth feddwl am y Rhyfel Mawr. Â ninnau gan mlynedd yn ddiweddarach diolch nad ydym yn wynebu ffosydd Fflandrys a Passchendaele. Ond i lawer mae’n byd yn teimlo fel un lle mae Duw wedi pellhau. Dyna pam mai un o’r enwau gafodd Iesu yn mynd â ni at ganol neges y Nadolig – Emaniwel, sef Duw gyda ni.

Eseia soniodd gyntaf am yr enw, wrth i Israel wynebu dyfodol ansicr. Roedd gelynion yn bygwth a phobl Israel yn llawn o eilunaddoli. Roedd Duw i lawer yn ymddangos fel un pell, ac eto dyma gair y proffwyd yn dod fel addewid nad oedd wedi cefnu ar ei bobl. Ganrifoedd yn ddiweddarach fe geid ffyddloniaid yn Israel – rhai fel Elisabeth a Sachareias, Mair a Joseff. Ond roedd tywyllwch ysbrydol o’u hamgylch rhwng arferion annuwiol y Rhufeinwyr, deddfoldeb didrugaredd y Phariseaid, a bydolrwydd y publicanod a’r pechaduriaid.

Ynghanol y cyfan wynebodd Joseff ofid personol o weld ei ddyweddi i bob golwg wedi torri ei hymroddiad iddo cyn iddyn nhw briodi hyd yn oed. Duw pell a phechod yn boenus o agos oedd ei fyd. Ond dyma neges yr angel yn newid pob dim. Nid Duw pell oedd hwn, ond un mwy agos nag y gallai ei ddychmygu. Nid ffrwyth pechod oedd y baban yng nghroth ei ddyweddi ond Duw ei hun yn ymweld â’n byd.

Mor aml yn hanes y geni clywn y geiriau “Paid ag ofni.” Caiff Joseff, Sachareias (Luc 1:13), Mair (Luc 1:30h a’r bugeiliaid allan yn y wlad (Luc 2:10) eu sicrhau fod Duw wedi dod yn agos yn y digwyddiadau rhyfeddol amgylchai’r baban hwn.

Bydd amryw heddiw yn wynebu gofid o ryw fath – rhyw siom mewn pobl, rhyw amgylchiadau anodd, rhyw ddolur neu dristwch. Ond os mai hyn yw eich hanes chi, dyma’r Crist sydd wedi ymweld â’n byd ni i fod gyda ni. Nid dod i balas ond i breseb anifail. Nid dod i barch ond i amharch; nid dod i gael ei urddo’n frenin ond dod i wynebu unigrwydd llethol y condemniad a’r poen ar groes Calfaria. A heddiw daw yn ei dynerwch a’i gydymdeimlad i fod gyda ni eto, wrth i ni ymddiried ynddo.