imageDarllenwch Luc 2:1-7

Un o beryglon ein hoes ni yw gwahaniaethu rhwng realiti â ffantasi. Mae’r byd rhithwir a geir ar y we, a’r modd mae’r cyfryngau yn meddiannu cymaint o’n bywydau yn golygu fod y ffîn rhwng yr hyn sy’n wir, a’r hyn sy’n rhithiol, yn ffals neu’n ddychmygol yn amwys iawn. Cymrwch chi “reality shows” y teledu, nad yw’n cyfateb i fywyd go iawn mewn unrhyw ffordd. Ble mae’r ffîn yn cael ei dynnu?

Ar y llaw arall ryden ni’n gwybod fod yna realiti – i ffoaduriaid Syria, a’r rhai welodd eu cymdogion, eu teuluoed a’u pentrefi yn cael eu difa gan filwyr Isis mae eu profiadau’n fyw a real. I drigolion Cumbria sy’n wynebu Nadolig mewn llety gwely a brecwast ar ôl y llifogydd, mae yna realiti llwm iawn i’r ŵyl eleni. Wedyn daw Star Wars i ddwyn pawb i ffwrdd i ryw fyd o ffantasi lle mae’r drwg yn cael ei goncro gan y da. Onid ffantasi yw dianc i sôn am y seren a’r stabl, y doethion o’r Dwyrain, u bugeiliaid a’r angylion? Ond na – nid ffantasi mo’r hanes.

Fe osodir yr hanes mewn cyd-destun creulon. Rhain oedd dyddiau Awgwstws, (Luc 2:1) ac ymherodraeth greulon y Rhufeiniaid oedd yn meddwl dim o groeshoelio cannoedd yn gyhoeddus a’u gadael i ddioddef yn enbyd am dyddiau wrth iddyn nhw farw – creulondeb yn cyfarteb i weithredoedd erchyll Isis. Rhain oedd dyddiau Herod, (Luc 1:5) oedd mor benderfynol o gadw gafael ar ei bŵer a’i safle fel y danfonodd filwyr i ladd plant Bethlehem yn hytrach na gadael i Frenin yr Iddewon gael byw. Digwyddodd y cyfan yn Nasareth, Bethlehem a Jerwsalem – llefydd y mae hanes yn cadarnhau eu bodolaeth. Nid ffantasi mo’r hanes, ond rhywbeth ddigwyddodd yn ein byd real ni, gyda’i greulondeb annynnol.

Ac ateb Duw i’r creulondeb hwnnw y pryd hynny fel heddiw oedd danfon ei Fab fel baban i Fethlehem. Yn hwn mae’n gobaith o hyd, ac nid ffantasi neu ddianc yw cofio’r hanes. Yn hytrach fe hoeliwn ein gobaith ar yr Un ddaeth i fod yn Emaniel – Duw gyda ni.

Nadolig Eleni

 Hen elyn sydd yn hawlio’r
Byd i gyd – mae’r byd o’i go’ –
Ac ofer ydyw gofyn
Ble mae Duw? Dan bla mae dyn.
Ond gwn, mi wn mai heno
Yno’n wan y gwelwn O
Dan resel isel, Iesu’n
Oesol Dduw, yn isel ddyn;
Duw cadarn wedi cydio’n
Eiddilwch ein llwch yn llon;
Dyma’n Duw yma’n dawel
Am ein hedd – Emaniwel.

Dafydd M Job