imageDarllenwch Mathew 1:18-25

Mae yna rai cymeriadau sy’n amlwg yn hanes Iesu Grist, ond mae yna eraill sy ddim yn cael cymaint o sylw. Eto mae eu lle yn bwysig tu hwnt yn y stori. Cymrwch chi Joseff. Fydd o byth yn cael cymaint o sylw â Mair. Ac eto roedd ei gyfraniad yn allweddol, ac yn rasol iawn hefyd.

Y peth cyntaf rydym yn ei ddeall amdano yw ei fod yn “ddyn cyfiawn.” Dyma un o’r rhai prin hynny, fel Sachareias, Elisabeth, Simeon ac Anna, oedd yn caru Duw ac yn hiraethu am waredigaeth Israel. Gwelwn yn ei ymateb i’r ffaith fod Mair yn feichiog rhyw ysbryd gwahanol. Gallai fod wedi ei chywilyddio’n gyhoeddus. Gallai fod wedi mentro amddiffyn ei enw ei hunan rhag y cywilydd o rai yn ei feio, neu’n cwestiynu ei gymeriad. Ond dangosodd drugaredd tuag at Mair, hyd yn oed pan oedd yn credu iddi fod yn anffyddlon iddo.

Ond wedyn clywn amdano’n cael ymweliad gan yr Angel mewn breuddwyd, ac yn mentro cymryd Mair yn wraig, ac mae’r cyfan yn ymddangos mor syml wrth ei ddarllen. Ond tybed, wrth iddo weld ei briod yn nesu at gyfnod y geni, nad oedd amheuon weithiau yn codi yn ei feddwl? Oni fyddai’n siwr o amau weithiau mai rhyw jôc chwerw oedd y cyfan, ac mai ef oedd y ffŵl mwyaf ynghanol y llwyfan gyda phawb arall yn chwerthin ar ei ben?

Gallwn feddwl am yr hyn â’i cadwodd rhag cerdded allan o’r sefyllfa. Yn gyntaf wrth gwrs roedd gair yr Angel. Wn i ddim faint o goel roddwch chi ar freuddwydion. Pethau digon rhyfedd ydyn nhw weithiau, a fedrwn ni ddim dibynnu ar bethau fel hyn i lywodraethu ein bywydau. Ond roedd hon yn freuddwyd gwahanol. Rydw i’n siwr ei fod wedi mynd yn ôl dro ar ôl tro i feddwl am yr hyn ddywedodd yr Angel wrtho. Roedd ei brofiad yn rhywbeth na allai ei wadu, a’r argyhoeddiad fod Duw yn y profiad hwnnw.

A synnwn i fawr nad Joseff ei hun wnaeth y cysylltiad rhwng yr hyn ddywedodd yr angel â geiriau Eseia: ‘A digwyddodd hyn oll fel y cyflawnid y gair a lefarwyd gan yr Arglwydd trwy’r proffwyd: “Wele, bydd y wyryf yn beichiogi, ac yn esgor ar fab, a gelwir ef Immanuel”, hynny yw, o’i gyfieithu, “Y mae Duw gyda ni”.’ (Mathew‬ ‭1:22-23‬ ‭BCN‬‬). Roedd yr hyn ddywedodd yr angel yn cyd-fynd â’r hyn roedd yn ei weld yn yr Yrgrythur. Dyma un peth oedd yn ei gadw yn wyneb unrhyw amheuon.
Flynyddoedd yn ddiweddarach, pan geisiodd y diafol demtio ein Harglwydd, atebodd yntau yr holl gyhuddiadau trwy ddyfynnu’r Ysgrythurau (Mathew 4:1-11). Gallwn ninnau fwydo’r Gair i mewn i’n profiadau o ddydd i ddydd, ac fe ffeindiwn ni ei fod yn ein troi ninnau at lwybrau gras.

Peth arall gadwodd Joseff mae’n siwr wrth iddo wynebu’r ansicrwydd yn ei sefyllfa oedd ei adnabyddiaeth o Mair ei hun. Fe wyddai sut un oedd hi, ac wrth i’r misoedd fynd heibio ac yntau’n dod i’w hadnabod yn well (Mae misoedd cyntaf priodas bob amser yn adeg o ddarganfod llawer am yr un rydym wedi eu priodi) fe wyddai nad un i’w dwyllo oedd hi. Cofiwch gyfarchiad Gabriel: ‘Aeth yr angel ati a dweud, “Henffych well, tydi, yr un y rhoddodd Duw ei ffafr iddi! Y mae’r Arglwydd gyda thi.”’ (Luc‬ ‭1:28‬ ‭BCN‬‬) Daeth yn amlwg i Joseff fod gras Duw ar waith ynddi, a hynny’n ei helpu yn wyneb unrhyw amheuon.

Gallwn ninnau ddefnyddio ein profiadau, y Gair a gwaith gras yn ein cyd-Gristnogion i’n cynorthwyo i wynebu unrhyw amheuon ddaw i’n rhan ninnau ar lwybr ffydd.