imageWedi’r holl disgwyl, fe gyrhaeddodd y Nadolig. Diwrnod i ddathlu, a diwrnod i ystyried. Yn hytrach na myfyrdod, dyma gywydd ysgrifennais ar droad y mileniwm i’ch helpu i ymdawelu wedi’r holl firi, a rhyfeddu at gynllun gogoneddus cariad Duw.

Gan ddymuno Nadolig llawen a bendithiol i chi gyd.

Ganwaith ar ŵyl y geni
Oedaf a rhyfeddaf fi;
Er y gwn y stori i gyd,
Eilwaith mae’n rhaid dychwelyd
‘Leni, dros ddau fileniwm,
I’r nos ddu, a’r llety llwm
At breseb na bu’i debyg
Lle daw bugeiliaid, lle dug
Doethion eu anrhegion drud
A nef yn atsain hefyd
Am mai hwn yw baban Mair –
Ein Duw sy’n blentyn diwair;
Ac oedaf, rhyfeddaf fi
Ganwaith ar ŵyl y geni.

Dafydd M Job

Categories: Uncategorized