imageDarllenwch Salm 146

Pawb â’i fys lle bo’i ddolur“. Dyna ddywed yr hen ddihareb Gymraeg. Rydym, bob un ohonom yn gweld y byd o berspectif hunan-ganolog. Mae yna rhyw reidrwydd yn hyn, oherwydd mae’r hyn sy’n digwydd i fi yn fwy real na’r hyn sy’n digwydd i bobl mewn llefydd eraill. Daeth hyn yn glir iawn i mi y dyddiau diwethaf wrth edrych ar y penawdau newyddion. Yr hyn sydd wedi bod yn llenwi’r rhan helaethaf o’r rhaglenni newyddion ar y teledu yw’r glaw a’r llifogydd, yn enwedig yng ngogledd Lloegr.

Ar yr un pryd mae glawogydd wedi peri tirlithriadau mawr yn Ne America, gydag amryw yn colli eu bywydau – ond doedd dim llawer o sôn am y rheini. Mae tanau wedi bod yn bygwth cartrefi yn Awstralia, ond chawson nhw ddim mwy na rhyw frawddeg neu ddwy o sylw. Ac wrth gwrs, mae ffoaduriaid yn parhau i geisio gadael Syria, ac argyfwng y Dwyrain Canol mor ddwys ag erioed. Ond i ni yn y wlad yma, beth sy’n digwydd fan yma sy’n cael y sylw.

Mewn os lle mae gwybodaeth yn gael ei rannu mor sydyn, yr hyn sy’n cyfrif o hyd ydi beth sy’n digwydd i fi. Ar lefel llawer mwy personol, mae cyfaill i mi wdi colli ei fam y dyddiau diwethaf. Roeddwn yn ei hadnabod, ac yn hoff iawn ohoni. Wrth gwrs rwy’n cydymdeimlo â’r teulu. Ond mae fy merch yng nghyfraith yn yr ysbyty yn disgwyl genedigaeth ei phlentyn, ac mae hwnnw’n pwyso llawer mwy ar fy meddwl. Mae fy mhryder neu fy ngofid fy hunan, fy llawenydd a’m gobeithion i mor aml yn gwthio allan yr hyn sy’n digwydd i eraill.

Wrth gwrs, mae bywyd yn llawn o brofiadau llawen ac anodd. Wedi llawenydd Joseff a Mair o weld y baban Iesu, a’r bugeiliaid â’u stori am yr angylion, y Seryddion â’u anrhegion, daeth y gofid o droi fel ffoaduriaid Syria, i ffoi am eu bywydau i’r Aifft, a’r pryder wedi iddynt ddychwelyd i Balesteina, a phenderfynu setlo yn Nasareth dlawd.

A dyna lle mae perspectif Salm 146 yn gymorth i ni. Rhaid edrych heibio ein sefyllfa ein hunain at yr Un sydd uwchlaw pob dim. ‘Peidiwch ag ymddiried mewn tywysogion, mewn unrhyw un na all waredu; bydd ei anadl yn darfod ac yntau’n dychwelyd i’r ddaear, a’r diwrnod hwnnw derfydd am ei gynlluniau.’ (Y Salmau‬ ‭146:3-4‬ ‭BCN‬‬)

Wyddom ni ddim beth oedd yr amgylchiadau barodd i’r Salmydd ysgrifennu’r geiriau hyn. Ond mae’n amlwg ei fod wedi darganfod fod ymddiried yn Nuw yn fwy diogel nag edrych at bobl, na’i amgylchiadau am gysur. Wrth edrych i’r cyfeiriad hwnnw mae mawl yn codi yn ei galon a’i enau.

Ac wrth i ni wneud hyn, mae’n ein helpu i gofio am rai sy’n brin o’r bendithion rydym ni yn eu mwynhau. Y rhai sy’n dioddef oherwydd y llifogydd yng ngogledd Lloegr, y ffoaduriaid sy’n dioddef wrth ddianc o ryfel Syria, a’r llu o bobl eraill sy’n galw am ein cymorth yn y byd.

Categories: Uncategorized