Oherwydd y cyfyngiadau yn sgîl ymlediad COVID-19 ar draws y Deyrnas Unedig mae Capel y Ffynnon yn ceisio gweithredu yn ôl cyngor y llywodraeth a’r awdurdodau.

Felly ni fydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn y Capel am gyfnod amhenodedig.

Bore Sul – fory (Mawrth 22) a phob Sul bydd gwasanaeth bore yn cael ei ddarlledu am 11.00 y.b – cliciwch ar y linc yma: (fe ddaw yn y man)

Pnawn Sul am 5.00y.p. byddwn yn cynnal seiat rhyngweithiol sy’n gweithredu fel we-gynhadledd. Bwriad y seiat yw trafod materion a ddaw o wrando ar y bregeth yn y bore. Os ydych am ymuno gyrrwch neges atom a gofynnwn am eich cyfeiriad ebost er mwyn i chi dderbyn mynediad i’r seiat

Bydd Ysgol Sul i blant yn y bore a fydd yn dilyn yr un drefn a’r Seiat yn y pnawn. Rhown fwy o fanylion am hyn cyn bo hir.

Categories: Uncategorized