Delw'r duw Janus yn edrych yn ôl ac ymlaenDarllenwch Philipiaid 3:7-14

Cyrhaeddodd diwrnod olaf y flwyddyn – diwrnod y bydd llawer yn oedi i edrych yn ôl ar yr hyn fu yn ystod y deuddeg mis diwethaf. Gallwn gofio digwyddiadau amlwg cyhoeddus, o gyflafan swyddfeydd Charlie Hebdo ddechrau Ionawr ac argyfwng y ffoaduriaid i lwyddiant tîm tennis Prydain yng Nghwpan Davis a chynnwrf Tim Peake yn mentro i’r gofod. Ond i’r rhan fwyaf ohonom, digwyddiadau personol fydd yn llenwi ein atgofion.

Wrth gwrs mae yna werth i wneud hyn. Un o anogaethau mawr y Salmydd yw i gyfrif ein bendithion: ‘Fy enaid, bendithia’r ARGLWYDD, a’r cyfan sydd ynof ei enw sanctaidd. Fy enaid, bendithia’r ARGLWYDD, a phaid ag anghofio’i holl ddoniau:’ (Y Salmau‬ ‭103:1-2‬ ‭BCN‬‬).

Mae codi ein golwg oddi ar ein sefyllfa bresennol a chofio fel yr ydym wedi profi daioni yr Arglwydd yn un o’r ffyrdd i’n hannog. Mae cofio fel y daeth bendithion arbennig ar adegau cymwys yn dangos gofal rhyfeddol Duw drosom. Mae cofio gorfod wynebu sefyllfa oedd yn ymddangos yn rhy anodd, ac eto daeth goleuni a nerth i’n dwyn ymlaen yn ddiogel, yn ein hatgoffa o ffyddlondeb di-baid y Duw nad yw’n huno na chysgu (Salm 121:4).
Mae edrych yn ôl hefyd yn gymorth i ddysgu oddi wrth ein profiadau. Er ein bod yn aml yn araf i ddysgu, rhaid cofio ein camgymeriadau er mwyn i ni fedru eu hosgoi wrth fynd ymlaen.

Perygl edrych yn ôl (a rydym ni’r Cymry yn arbenigwyr ar wneud hyn) yw ein bod yn byw yn y gorffennol yn unig. Meddyliwn am yr hen ddyddiau da, a rhywsut meddwl y byddai’n braf eu cael yn ôl. Neu meddyliwn am y dyddiau drwg a meddwl na wnaiff pethau byth newid a gwella. Ond rhan o ogoniant yr efengyl Gristnogol yw’r gobaith sicr fod y gorau eto i ddod. Felly yn ogystal ag edrych yn ôl rhaid hefyd edrych ymlaen. Gwyddom fod y dyfodol yn aml yn dywyll i ni. Ond gwyddom hefyd nad yw’n dywyll i’r Un ddywedodd ‘Myfi yw Alffa ac Omega, y cyntaf a’r olaf, y dechrau a’r diwedd.”’ (Datguddiad‬ ‭22:13‬ ‭BCN‬‬). Gallwn fentro ymlaen yn hyderus ei fod Ef yn gwylio drosom ac yn llywodraethu ein holl amgylchiadau.

Dyna pam fod modd i ni gymryd geiriau Paul am ei uchelgais, yn eiriau i ninnau, ac mentro i’r flwyddyn newydd gan gredu fod gan Dduw fendithion newydd ar ein cyfer: ‘Gyfeillion, nid wyf yn ystyried fy mod wedi ei feddiannu; ond un peth, gan anghofio’r hyn sydd o’r tu cefn ac ymestyn yn daer at yr hyn sydd o’r tu blaen, yr wyf yn cyflymu at y nod, i ennill y wobr y mae Duw yn fy ngalw i fyny ati yng Nghrist Iesu.’ (Philipiaid‬ ‭3:13-14‬ ‭BCN‬‬)

Gan ddymuno Blwyddyn Newydd llawn bendith i chi gyd.

Tad tragwyddoldeb, plygaf ger dy fron,
Ceisiaf dy fendith ddechrau’r flwyddyn hon;
Trwy blygion tywyll ei dyfodol hi,
Arweinydd anffaeledig, arwain fi.

Beth fydd fy rhan ar hyd ei misoedd maith?
Nis gwn, fy Nuw, ni fynnwn wybod chwaith.
Ai hyfryd ddydd, ai nos dymhestlog ddaw?
Bodlon, os caf ymaflyd yn dy law.

Ffydd, gobaith, cariad – doniau pennaf gras,
Addurno f’oes wrth deithio’r anial cras;
Rho imi beunydd fyw’n d’oleuni Di;
Ddihenydd sanctaidd, tyred, arwain fi.

Heneiddia’r greadigaeth, palla dyn,
Diflanna oesoedd byd o un i un;
Er cilio popeth, un o hyd wyt Ti;
Y digyfnewid Dduw, O! arwain fi.