imageDarllenwch Pregethwr 3:1-15

Cyrhaeddodd y flwyddyn newydd. Fel afer bu dathlu mawr dros y byd i gyd, gyda sioeon laser a thân gwyllt yn nodi’r achlysur. Mae yna awydd bob amser i nodi’r achlysur. Ac eto mae yna rhywbeth rhyfedd am y cyfan. Oherwydd dechreuodd y flwyddyn newydd yn gynt mewn rhai rhannau o’r byd na rhannau eraill.

Cafodd pobl Seland Newydd15 ddathlu oriau cyn pobl Gorllewin Ewrop, a bu rhaid i drigolion yr Unol Daleithiau a Chanada aros oriau wedi i ni fod wrthi yn gollwng ein tân gwyllt.

Mae amser yn beth rhyfedd. Mae’n feistr arnom mewn cymaint o ffyrdd. Wedi’r cyfan, does dim gwahaniaeth ar un olwg rhwng un funud â’r funud nesaf. Ac eto mynnwn nodi’r modd mae amser yn mynd heibio. Bu llawer yn breuddwydio am feistroli amser i allu teithio fel Doctor Who ar draws y blynyddoedd. Bu eraill yn dymuno troi’r cloc yn ei ôl fel yn y ffilm Back to the Future. Wedyn fe gewch ffantasi fel ffilm Groundhog Day, lle mae’r prif gymeriad wedi ei ddal mewn un dydd sy’n cael ei ail adrodd dro ar ôl tro, a bob bore wrth ddeffro mae’n darganfod ei fod yn ôl yn yr un diwrnod – yn y pen draw mae’n cal cyfle i gywiro pob camgymeriad, a chael y diwrnod perffaith, ac yna mae’n symud ymlaen.

Ond ffantasi yw’r cyfan. Fedrwn ni ddim troi’r cloc yn ôl. Fedrwn ni ddim teithio drwy amser. Rhaid plygu i’r drefn o wynebu un funud ar ôl y llall, un diwrnod ar ôl y llall, un flwyddyn ar ôl y llall. Nid meistroli amser yw’r her, ond gwybod sut i ddefnyddio’r munudau a’r blynyddoedd a roir i ni.

Mae’r Beibl yn dweud wrthym beth i’w wneud gyda’n gorffennol. Wrth feddwl am ein bendithion, dylem ddiolch i Dduw amdanyn nhw i gyd. (Myfyrdod ddoe). O feddwl am ein beiau – y geiriau yr hoffem eu tynn’n ôl, y pethau fyddem ni yn eu gwneud yn wahanol pe byddem yn cael ein hamser yn ôl – rhaid eu cymryd at y Groes i gymryd gafael yn y maddeuant sydd i’w gael yno. ‘Os cyffeswn ein pechodau, y mae ef yn ffyddlon ac yn gyfiawn, ac felly fe faddeua inni ein pechodau, a’n glanhau o bob anghyfiawnder.’ (1 Ioan‬ ‭1:9‬ ‭BCN‬‬)

Mae’r Beibl hefyd yn dweud wrthym beth i’w wneud gyda’n dyfodol. Oes gennym bryderon? ‘Rho dy feichiau trwm i’r ARGLWYDD; bydd e’n edrych ar dy ôl di. Wnaiff e ddim gadael i’r cyfiawn syrthio.’ (Salm‬ ‭55:22‬ ‭BNET‬‬) oes gennym obeithion? ‘Ymddiried rhai mewn cerbydau, a rhai mewn meirch: ond nyni a gofiwn enw yr Arglwydd ein Duw.’ (Y Salmau‬ ‭20:7‬ ‭BWM‬‬)

Mae yna Un a ddywedodd ‘Myfi yw Alffa ac Omega, y cyntaf a’r olaf, y dechrau a’r diwedd.”’ (Datguddiad‬ ‭22:13‬ ‭BCN‬‬) Fe ddywedodd y Brenin Dafydd ‘Y mae fy amserau yn dy law di;’ (Y Salmau‬ ‭31:15‬ ‭BCN‬‬), felly ein gobaith gorau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod yw rhoi ein hunain yn nwylo’r Time Lord – ac nid Doctor Who na Stephen Hawking yw hwnnw. Rhown ein llaw yn llaw yr Un dawelodd y storm ar y môr, a’r Un a drodd y dŵr yn win. A boed i’r flwyddyn sy’n dod fod yn un lle cawn ddod i’w adnabod Ef yn well.