imageDarllenwch Salm 1

Dyma ni wedi dechrau ar wythos yr addunedau. Mae llawer yn dewis cymryd dechrau blwyddyn fel amser i geisio newid rhywbeth yn y ffordd mae nhw’ byw. Bydd ceir wedi parcio y tu allan i’r “gym” lleol yn dangos awydd rhai beth gynnag i wneud mwy o ymarfer corff. Bydd sawl un wedi dechrau ar ddeiet, yn enwedig ar ôl gwledda dros y Nadolig. Mae amryw yn cael eu hannog i fynd am fis heb alcohol.

Bydd eraill yn penderfynu mai eleni fydd y flwyddyn pan fyddan nhw’n cyflawni rhyw uchelgais sydd wedi bod yng nghefn eu meddwl ers blynyddoedd.

Wrth gwrs, mae gwerth i benderfyniad i wneud rhywbeth llesol, ond mae amryw yn ei chael hi’n haws dechrau na chyflawni. Rhan o’r ffordd o lwyddo yw trwy osod nod y gellir ei gyrraedd, a chymryd camau digon bach i ddechrau. Mae meddylfryd y marathon gymaint gwell na meddylfryd y ras can medr yn y pethau hyn. Does neb yn dechrau marathon yn rhedeg nerth ei draed.

Beth am adduned i ddarllen y Beibl? Mae hwn yn lyfr mawr – llyfrgell o lyfrau mewn gwirionedd. Mae yma chwe-deg-chwech o lyfrau gan amryw o wahanol awduron, a sawl un o’r llyfrau yn nifer o bennodau (er nad oes un o’r penodau hynny yn hir iawn!). Ond mae help ar gael. Mae yna gynlluniau di-rif ar gael ar y we i’n helpu ni i ddewis adran ar gyfer pob dydd. Yn wir mae rhai’n dweud fod deg munud y dydd yn ddigon o amser i’r rhan fwyaf ohonom lwyddo i ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn.

Rwyf fi ers sawl blwyddyn wedi dilyn cynllun M’Cheyne, sydd yn fy ngalluogi i ddarllen yr Hen Destament i gyd unwaith, a’r Testament Newydd a’r Salmau ddwy waith yn ystod y flwyddyn. Mae’n rhannu’r Beibl yn bedair adran, Genesis i 2 Cronicl, Esra i Malachi, yr efengylau a’r Salmau, a’r Actau i Datguddiad. Bydd fel arfer pennod o bob adran ar gyfer pob dydd, ac mae’r amrywiaeth yn golygu na chaf fy nigalonni ynghanol un o’r llyfrau mwy anodd. (Mae rheolau bwyd Lefiticus yn swnio’n od ar y naw, neu benodau Jeremeia o farn Duw yn gallu bod yn dipyn o her i fynd trwyddyn nhw.)

imageWrth gwrs, does dim rhaid darllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae cynlluniau i’n galluogi i’w ddarllen mewn tair blynedd, neu fwy. Ond mae’n syndod fel y bydd dechrau ar ddechrau blwyddyn yn rhoi hwb i ni. Yr unig beth sydd raid ei wneud yw trefnu amser bob dydd lle cawn eistedd yn dawel rhywle, efallai mewn cadair gyfforddus, a mynd ati.

Mae Llyfr y Salmau yn dechrau trwy ein hannog i weld fod gwneud hyn yn golygu y byddwn yn “wyn ein byd”. Ac wrth ofyn i Dduw ein helpu i ddeall, yna fe synnwch chi fel y cewch hyd yn oed rhannau fel Lefiticus, neu broffwydoliaeth Jeremeia yn fendith a chalondid. Beth amdani?