Albania 2018
Yn ôl yng Ngwlad yr Eryrod 2
Dechreuodd fy niwrnod llawn cyntaf yma yn Nhirana gyda brecwast yn y gwesty. Mae’n lle diddorol, yn cael ei redeg er egwyddorion Cristnogol gyda’r gweithwyr yn cael eu hyfforddi er mwyn iddyn nhw fedru efallai mewn amser gosod yr un math o fusnes ar dro yn y wlad. Mae’n gyrchfan Read more…
Mi gefais i fy magu yn Aberystwyth – tref glan y môr – ac un o bleserau pob haf oedd mynd i nofio yn y môr. Roeddem ni wrth dyfu yn hoffi herio ein gilydd weithiau, ac un o’r campau oedd cychwyn un pen o’r traeth yn ymyl yr hen orsaf heddlu, a nofio allan tu hwnt i’r creigiau, cyn troi wedyn a dychwelyd ochr arall y crigiau ger y banstand. Wn i ddim pa mor bell oedd o, ond dwi’n cofio y tro cyntaf i mi ei wneud. Roeddwn wedi blino’n llwyr erbyn cyrraedd yn ôl i’r traeth. Un o’r pethau wnaeth fy helpu ar y ffordd oedd fod yna rhywun arall yn nofio gyda mi. Felly roeddem yn annog ein gilydd i ddal ati.
Un o’r ffilmiau hynny sy’n cael eu dangos ar y teledu yn rheolaidd dros y Nadolig yw Home Alone. Mae teulu yn mynd i ffwrdd ar wyliau gyda’i gilydd, ond mae nhw’n anghofio am Kevin sy’n cysgu’n hwyr. Mae yntau wedi ei adael gartref felly ac yn cael llawer o hwyl ac antur yn diogelu’r tŷ rhag lladron sy’n ceisio targedu tai sy’n wag dros dymor yr ŵyl. Mae’r ffilm wrth gwrs yn ffantasi llwyr, a llawer yn mwynhau ei gweld. Ond yn y cefndir mae’r ymwybyddiaeth na ddylai Kevin ddim fod wedi cael ei adael. Tyden ni ddim fod ar ein pen ein hunain.
Fe soniais i ddoe am ddeiet iach. Wrth gwrs nid mater o ddeiet yn unig yw byw yn iach. Ochr yn ochr â’r addunedau flwyddyn newydd am golli pwysau trwy fwyta’n well, bydd llawer yn ymuno â gym lleol. Bydd y mwyafrif ond yn mynychu’r gym am ychydig wythnosau, ond mae yna gydnabod bod rhaid cael ymarfer corff er mwyn cael gwerth a llesád o newid deiet. Er mwyn cael gwared â brasder diangen, a chryfhau’r cyhyrau, rhaid ymarfer y cyhyrau a llosgi’r brasder ymaith trwy ymarfer corfforol.