Nadolig Llawen a bendithiol i bob un sy’n darllen y cofnod hwn. Heddiw ar ddydd Nadolig wrth i ni gofio ein Gwaredwr yn cael ei eni, dyma gywydd i chi gael llawenhau yng ngorfoledd y diwrnod. Gallwch hefyd edrych yn ôl dros y pum diwrnod ar hugain diwethaf i weld myfyrdodau ar ystyr y Nadolig.

 Yr Ymgnawdoliad

Mae heno uwch y mynydd
Yn y nen un seren sydd
Â’i golau yn datgelu
Dyfodiad ein Ceidwad cu –
Dyfod Duw i adfyd dyn
A’i eni yn fachgennyn!

Arglwydd, ai rhwydd fu rhoddi
Aer y Nef i’n daear ni?
I guddio’r Gair Tragwyddol
Yn y gwair mewn egwan gôl?
Am i Dduw i Fethlem ddod
O’i fodd, mae mawr ryfeddod!

O! ddwyfol ymgnawdoliad!
Y mae cur ei ymwacád,
A’i ‘fory ar Galfaria’n
Dwyn yn glau i’n genau gân,
A’i ddod yn cuddio’n tlodi,
Rosyn Nef, drwy’i ras i ni!

Yr anfeidrol feidrolyn
Yn Fab Duw, yn Fab y dyn.
Anwyla ein heiddiledd,
Duw sy’n fodlon gwisgo’n gwedd;
Gedy nef – Duw gyda ni
Yn nhir anwar trueni.

Y Dwyfol sy’n Nhre Dafydd
Er ein mwyn, er dwyn y dydd
I noswaith hir ein heisiau –
Dywyll nos – rhaid llawenhau
Mewn carol, a’i addoli,
Lywydd nef, ein Harglwydd ni!

Rhown heddiw Haleliwia
Eni dydd y newydd da,
I eilio cân angylion
Uwch y dref, â’n llef yn llon;
A heno uwch y mynydd
Yn y nen un seren sydd.

© Dafydd M Job