Nadolig

Nadolig Llawen a bendithiol i bob un sy’n darllen y cofnod hwn. Heddiw ar ddydd Nadolig wrth i ni gofio ein Gwaredwr yn cael ei eni, dyma gywydd i chi gael llawenhau yng ngorfoledd y diwrnod. Gallwch hefyd edrych yn ôl dros y pum diwrnod ar hugain diwethaf i weld myfyrdodau ar ystyr y Nadolig. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 24

Mae’r Nadolig yn amser o lawer iawn o ganu ac i Gristnogion canu mawl i Dduw yw’r peth pwysig.
Un o’r dadleuon sy’n cael ei defnyddio yn erbyn Cristnogaeth ydi – pa fath o Dduw ydi hwn sy’n mynnu fod pawb yn ei addoli? – mae’n swnio’n hunanol, ego-centric. Dyma’r Duw sy’n megalomaniac. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 23

Gyda Sul arall wedi ein cyrraedd dyma drydedd garol ar eich cyfer. Mae hon yn pwysleisio’r gwahanol ymateb i’r Gwaredwr. Fe dywedodd Simeon y byddai’r baban hwn yn gwymp ac yn gyfodiad i lawer. (Luc 2:34) A dyna fu mewn gwirionedd. Rhoir clod i’r bugeiliaid am adael eu praidd i chwilio amdano. Rhyfeddir at y sêr ddewiniaid yn teithio’n bell gan ddilyn y seren nes dod o hyd i’r un bach er mwyn ei addoli. Ar y llaw arall mae hanes yn ffromi ar ddinas Bethlehem, na roddodd le i’r bychan yn y llety. Condemnir Herod yn hallt am ei awydd i ddifa’r bychan. Ond felly mae hi o hyd – mae rhai yn croesawu Iesu, ac eraill yn ei wrthod. Peidiwn ni a throi cefn ar Waredwr mor rasol. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 22

Fyddwch chi’n cael trafferth i ddewis anrhegion i’w rhoi i bobl? Mae ambell i berson yn hawdd iawn i’w plesio, a does dim problem meddwl beth i’w roi iddyn nhw. Ond mae ambell un arall yn fwy anodd – yn enwedig os nad ydyn nhw wedi rhoi unrhyw gliw i chi beth fyddai’n dda ganddyn nhw ei gael y flwyddyn hon. Wedi’r cwbl, rydech chi am gael rhywbeth fydd yn siwtio, yn enwedig mewn dydd o gynni cymharol. Tydech chi ddim am luchio arian i ffwrdd ar rhywbeth na gaiff ei werthfawrogi. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 21

Heddiw roedd amryw mae’n debyg yn disgwyl diwedd y byd. Yn ôl y calendr Mayan, roedden nhw’n tybied fod popeth yn mynd i ddirwyn i ben ar y diwrnod hwn. Nid dyma’r tro cyntaf i bobl fod yn disgwyl rhywbeth fel hyn i ddigwydd. Sawl tro mae gwahanol grwpiau – hyd yn oed Cristnogion – wedi tybied fod diwedd yr oes hon yn mynd i gyrraedd ar rhyw adeg arbennig neu mewn rhyw flwyddyn arbennig. (A hynny ar waethaf y ffaith fod yr Ysgrythur yn dweud yn glir nad yw’n perthyn i ni wybod yr amserau – tydyn nhw ddim wedi eu datgelu i ni.) (rhagor…)

Tymor yr Adfent 20

Mae’r ffilm The Hobbit yn y sinemáu yr wythnos hon. Tydw i ddim am fradychu’r plot i unrhyw un sy’n dymuno mynd i’w gweld. Ond gallaf ddweud ychydig heb roi dim byd o bwys i ffwrdd (Tydw i ddim wedi gweld y ffilm – dim ond wedi darllen y llyfr, a gweld yr hysbysebion).

Mae’r hanes yn dechrau gyda Bilbo Baggins – creadur sydd ddim o dras dynion – un o’r hobbits ydi o – creadur sy’n ymddangos yn ddynol, yn enwedig yn ei natur. Ond mae’n fach fel corrach, mae ganddo flew yn tyfu ar ei draed, ac mae’n hoffi aros gartref. Y peth gwaethaf allai ddigwydd iddo fyddai gorfod gadael ei gartref cysurus, wedi ei gloddio yn ochr y bryn yn Hobbiton. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 19

Fe soniais i ddoe fod y Tad ar waith yn trefnu cynllun grasol i ddangos pa mor rhagorol yw’r Mab. Mae pobl efengylaidd weithiau wedi gosod y Tad yn erbyn y Mab. Mae’r Tad yn ddig oherwydd ein pechod, a daw’r Mab yn rasol i sefyll rhwng dicter y Tad â ni, a bodloni ei awydd am gyfiawnder. (Dyma’r darlun barodd i Steve Chalke ddisgrifio athrawiaeth yr Iawn fel cosmic child abuse.) (rhagor…)

Tymor yr Adfent 18

Mae llawer yn gweld adeg y Nadolig fel cyfle i deulu ddod at ei gilydd. Er efallai i ni fod ar lwybrau gwahanol ar hyd y flwyddyn, mewn rhannau gwahanol o’r wlad neu hyd yn oed ein byd, mae dod at ein gilydd yn bwysig, i sylweddoli i bwy ryden ni’n perthyn. Mae’n gyfle i ail afael yn y berthynas dynn sydd rhwng perthnasau. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 17

Neithiwr roeddwn i’n pregethu am dangnefedd – yr hyn mae’r Beibl yn sôn amdano fel rhywbeth mwy na diffyg rhyfel. Mae’n golygu ffynniant – y cyflwr hwnnw lle rydym yn gwybod fod popeth yn dda. Mae fel dod adref. Rydym i gyd yn gwybod rhywbeth am yr hiraeth am y tangnefedd hwnnw. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 16

Mae’n ddydd Sul felly dyma rywbeth syml heddiw ar gyfer ein haddoliad. Dyma garol arall ar eich cyfer. Roedd hon yn anrheg Nadolig gen i i’r eglwys yma ym Mangor y llynedd, ac fe’i canwyd ar fore Nadolig i’r dôn Epiphany (Caneuon Ffydd 383 neu Praise 274) (rhagor…)