Fe gefais fy nghyfeirio at gân ar y we yr wythnos ddiwethaf oedd yn un o’r parodïau ar ganeuon traddodiadol y Nadolig. (http://www.youtube.com/watch?v=ZoINm3ZWlAE) Mae’r pennill cyntaf fel a ganlyn:

Oh, I just got a message from old Saint Nick way up in Christmas land;
And he said the toys for good girls and boys are being made as planned;
There’s a truck for little Billy, and a dolly for Molly dear,
But you ain’t getting diddly squat, ‘cos you really messed up this year!

Dyna’r darlun o Siôn Corn sy’n cael ei gyflwyno i gymaint o blant – Mae o’n cadw golwg arnoch chi, ac os ydych yn cam-ymddwyn yn ystod y flwyddyn, yna gwyliwch – ddaw ddim ag anrhegion i’ch tŷ chi.

Nid felly mae Duw a’i ras. Er hynny mae llawer yn meddwl amdano yn yr un termau. Mae Duw yn y nefoedd yn cadw golwg ar bob dim rydym yn ei wneud, a chofnod o bob bai. Felly os y gwnawn ni gamu oddi ar y llwybr cul, yna mi fydd yn siwr o ddial trwy ein taro â mellten, neu creu trafferth o ryw fath. “You ain’t getting diddly squat, ’cos you really messed up.”

Ond nid dyna Dduw’r Beibl. Yn Genesis 3 fe welwn Adda ac Efa yn gwrthryfela yn ei erbyn, ond yn lle eu condemnio mae’n rhoi addewid o “Had y wraig” fydd ryw ddydd yn ysigo pen y sarff ac adfer y berthynas o dangnefedd rhwng dyn â Duw. Yn Exodus gwelwn Dduw yn rhoi ei ddeddf i Moses, ond ochr yn ochr â’r ddeddf sy’n condemnio mae’n gosod trefn trwy offeiriadaeth Aaron i gael maddeuant. Yn Eseia gwelwn fel ag y mae eilun addoliad Israel yn dwyn caethglud i Fabilon ar eu pennau, ond gwelwn hefyd addewid o ddychwelyd mewn heddwch (Eseia 55) ac o olchi eu beiau er iddynt fod yn goch fel ysgarlad nes eu bod cyn wynned ag eira (Eseia 1:18).

Yn y Testament Newydd gwelwn wireddu’r gras hwn mewn modd eithafol. Er i ddrygioni dyn amlhau, daw’r Gair yn gnawd. Daw Mab y dyn nid i gondemnio’r byd ond fel yr achubid y byd drwyddo. Daw nid i’w wasanaethu ond i wasanaethu, a rhoi ei einioes yn bridwerth dros lawer. (Ioan 12:27; Mathew 20:28). Hwn yw’r un na gondemniodd y wraig a ddaliwyd mewn godineb, ond rhoi cyfle newydd iddi i edifarhau a chael bywyd. (Ioan 8:11) Ef hefyd roddod gyfle newydd i Pedr, ar ôl i hwnnw wadu ei Arglwydd dair gwaith, a’i wneud yn arweinydd ac is-fugail yn ei Eglwys. (Ioan 21)

Felly does dim cysylltiad rhwng y Duw hwn â’r Sion Corn mae’r gân glywais i yn sôn amdano. Er ein bod i gyd wedi methu yn drychinebus, ac yn haeddu dim byd ond condemniad mae gras Duw yn dweud: “Dewch ataf fi, bawb sy’n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi. Cymerwch fy iau arnoch a dysgwch gennyf, oherwydd addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon, ac fe gewch orffwystra i’ch eneidiau. Y mae fy iau i yn hawdd ei dwyn, a’m baich i yn ysgafn.” (Mathew 11:28-30)

Categories: Nadolig