Adfent 2015
Tymor yr Adfent 19
Darllenwch Rhufeiniaid 8:1-5
Dyma ni wedi cyrraedd y penwythnos olaf cyn y Nadolig ei hun. Bydd amryw wrthi heddiw mae’n siwr yn edrych am yr anrheg hwnnw sydd heb eto gael ei brynu. Mae dewis anrheg addas i ambell un yn hawdd, ond nid felly gyda phawb. Mae yna rai sy’n anodd eu plesio, naill ai am fod ganddyn nhw ddigonedd, neu am nad ydyn nhw efallai yn bobl sy’n rhoi pwys mawr ar bethau. Mae chwilio am rywbeth gwahanol i’r rhain yn gamp. (rhagor…)
Un o’r teitlau roddir i Iesu yn Eseia 9:6 yw “Cynghorwr rhyfeddol”. Mae hyn yn ymddangos yn nodwedd hynod o berthnasol i’n hoes ni. Rydym yn byw ar adeg lle mae cymaint o gwestiynau yn ein wynebu – mae technoleg newydd wedi rhoi’r gallu i ni wneud pethau na allai ein teidiau a’n neiniau ddim dychmygu fyddai’n bosib.
Ddoe roeddwn i’n sôn am yr adnod honno sydd mor gyfarwydd i ni: Canys bachgen a aned i ni, mab a roed i ni, a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd. (Eseia 9:6) Peth arall sy’n amlwg o’r adnod hon yw mai anrheg yw efengyl Iesu Grist i ni – Mab a roddwyd yw hwn.