Y mae tymor i bob peth, ac amser i bob gorchwyl dan y nef:

Fel hyn mae’r Pregethwr yn cychwyn un o gerddi enwoca’r Beibl. (Pregethwr 3) Ond i’n hoes brysur ni, y gŵyn ydi ein bod mor brysur nad oes modd dod o hyd i amser i bob gorchwyl. Mae blwyddyn newydd wedi dechrau, a 2012 drosodd. Mae cyfleon y llynedd wedi mynd, a rheidrwydd i geisio cyflawni mwy eleni.

Rydym hyd yn oed wedi dechrau meddwl am amser mewn ffyrdd gwahanol. Os oeddem am ddweud fod rhywbeth yn digwydd yn sydyn, fe fyddem yn sôn amdano’n digwydd “mewn amrantiad”, ond heddiw nid mewn chwinciad llygad fyddwn ni’n mesur pethau – ond mewn nanosecond, a mae tua 400 miliwn nano-eiliad mewn pob amrantiad.

Ochr yn ochr â hyn rydym yn ceisio bod mewn mwy nag un lle ar unwaith – ydech chi wedi gweld fel mae ffonau symudol wedi hawlio eu lle yn ein bywydau? Felly fe fyddwch yn siarad â rhywun, ond yn mae nhw’n sydyn yn edrych ar eu ffôn – yn gweld beth sy’n trendio ar twitter, neu’n digwydd ar facebook, neu pa neges sydd wedi dod ar e-bost. Y broblem bryd hynny ydi nad ydyn nhw ddim mewn dau le ar unwaith – mae nhw yn y lle arall, wedi eich gadael chi er eu bod nhw’n sefyll yn eich ymyl. (Un o fy addunedau flwyddyn newydd i yw peidio bod mor glwm wrth fy ffôn) Felly sut mae modd meddwl am ddigon o amser ar gyfer pob dim?

Nid felly mae hi wedi bod, ac nid felly mae hi ym mhob man. Fe glywais i gyfaill o gyfandir Affrica yn dweud: “In the West you have so many watches but no time; in Africa we have no watches and plenty of time.”

Ond yn y Beibl mae amser yn werthfawr. Mae yna anogaeth i ni brynu yr amser, neu i ni gyfrif ein dyddiau. Yn wir mae Duw yn agosach atom nag y gallem ei ddychmygu. A chydag amser daw cyfle – cyfle i ymateb i’r Duw tragwyddol sy’n bresennol bob amser. Cofiwn Iesu un dydd yn dweud wrth ei frodyr: i chwi y mae unrhyw amser yn addas.(Ioan 7:6) Sôn oedd am yr angen i ymateb i ras Duw yn estyn allan atyn nhw yn ei Fab. Mewn man arall mae’r ysgrythur yn ein hannog mai y presennol yw’r amser i ymateb i iachawdwriaeth Duw (2 Corinthiaid 6:2, Hebreaid 3:13)

Os ydi hi’n bosib i ni fod yn bresennol yn y corff ond ein meddwl mewn man arall gyda ffôn symudol, Yna yn sicr mae’r un peth yn bosibl wrth i ni feddwl am Dduw – mi fydd ein haddoliad yn llai didwyll am bod ein meddyliau rhywle arall. Mi fydd ein gweddïau yn ddim ond geiriau oherwydd bydd ein calonnau’n crwydro. Mi fydd ein tystiolaeth yn swnio’n afreal, oherwydd mai dim ond ail adrodd hen ystrydebau fyddwn ni.

Y gamp ydi sylweddoli realiti presenoldeb Duw ym mhob lle ac ym mhob man. Mae’r bobl sy’n gallu gwneud hynny yn llwyddo i weld fod yna amser i bob dim sydd ei angen – pob dim sy’n rhoi bodlonrwydd am ein bod yn cael hynny trwy ei fodloni Ef. Darllenwch Salm 139.

Oes, mae tymor i bob peth, ac amser i bob gorchwyl dan y nef: Eleni, mewn blwyddyn newydd gadewch i ni ddod o hyd i’n llawenydd a’n tawelwch yn ewyllys y Duw sydd goruwch amser.