Ddoe fe ddechreuais i feddwl am ymgnawdoliad Crist fel patrwm ar ein cyfer ni: Fel y mae’r Tad wedi fy anfon i, yr wyf fi hefyd yn eich anfon chwi.” (Ioan 20:21) Mae yna bethau cwbl unigryw am y ffordd yr oedd y Tad yn anfon ei Fab i’r byd. Does dim modd y gallwn ni dalu iawn am bechod y byd. Ond mewn rhai ffyrdd mae modd i ni ddilyn patrwm y Gwaredwr.

Ddoe fe soniais i fod Crist yn ein anfon ni i’r byd, a hynny gyda neges i’w llefaru. Wrth gwrs, wrth wneud hyn, nid ennill haeddiant wnawn ni. Fydd Duw ddim yn ein caru fwy os lwyddwn ni, na chwaith yn ein caru llai os fethwn ni. Dyma ein ymateb i drugaredd Duw tuag atom, sy’n wasanaeth rhesymol (Rhufeiniaid 12:1 cyfieithiad William Morgan), neu’n addoliad ysbrydol (BCN).

Gadewch i ni dderbyn calondid heddiw. Un o’r rhwystredigaethau mawr mae unrhyw un yn ei deimlo yn ei waith yw’r amheuaeth honno nad yw ei ymdrech yn mynd i newid unrhyw beth. Meddyliwch am y person ifanc di-waith hwnnw sydd wedi anfon cais ar ôl cais i mewn heb lwyddo i gael swydd o gwbl. Neu beth am yr athro hwnnw sydd wedi bod yn ymdrechu efo blwyddyn 9 yn yr ysgol, a’r disgyblion yn dangos dim diddordeb nac ymdrech.

Ond nid felly mae hi fod yng ngwaith y Deyrnas. Pan anfonodd y Tad Iesu i’r byd, fe’i hanfonodd i ddwyn ffrwyth. Nid bwriad y Tad am un funud oedd y byddai’r Mab yn aberthu ei hun yn ofer. Ganrifoedd cyn geni Bethlehem fe addawodd y Tad: O lafur ei enaid y gwêl, ac y diwellir. Fy ngwas cyfiawn a gyfiawnhá lawer trwy ei wybodaeth (Eseia 53:11 Cyfieithiad William Morgan). Wrth ddiffinio diben gweinidogaeth Iesu darllenwn: nid i gondemnio’r byd yr anfonodd Duw ei Fab i’r byd, ond er mwyn i’r byd gael ei achub trwyddo ef.(Ioan 3:17) Pe bai Iesu wedi marw, ond y byd i gyd yn ei wrthod, yna beth fyddai canlyniad ei waith? Dyma’r condemniad, i’r goleuni ddod i’r byd ond i ddynion garu’r tywyllwch yn hytrach na’r goleuni (Ioan 3:19). Ond doedd yna erioed bosibilrwydd o fethiant.  Gallai Iesu ei hun ddweud Y mae fy nefaid i yn gwrando ar fy llais …..Yr wyf fi’n rhoi bywyd tragwyddol iddynt; nid ânt byth i ddistryw, ac ni chaiff neb eu cipio hwy allan o’m llaw i. (Ioan 10:27-28) Mae cymaint o ddamhegion y Gwaredwr yn sôn am waith y Deyrnas yn nhermau ffrwyth, a’r ffrwyth yn cael ei ddiffinio fel pobl.

Yn yr un modd ag yr anfonodd y Tad Iesu i ddwyn ffrwyth, felly mae Iesu yn ein anfon ni. Dyma sut y gogoneddir fy Nhad: trwy i chwi ddwyn llawer o ffrwyth a bod yn ddisgyblion i mi.(Ioan 15:8) Byddwn yn rhyfeddu un diwrnod, wrth weld gymaint o’r had a heuwyd – gair wedi ei ddweud yma, gwahoddiad wedi ei roi acw – fydd wedi dwyn ffrwyth. Felly, fy nghyfeillion annwyl, byddwch yn gadarn a diysgog, yn helaeth bob amser yng ngwaith yr Arglwydd, gan eich bod yn gwybod nad yw eich llafur yn yr Arglwydd yn ofer.(1 Corinthiaid 15:58)

Y rheswm na fydd ein llafur yn ofer yw ein bod yn cael ein anfon, fel Iesu, yn nerth yr Ysbryd Glân.

Mae olrhain gwaith yr Ysbryd yn yr Ymgnawdoliad yn ddiddorol a bendithiol. O’r cenhedlu (Luc 1:34,35) i’r bedydd (Mathew 3:16) ac ymlaen i’r temtio (Mathew 4:1) gwelwn fod y Gwaredwr yn cyflawni ei weinidogaeth yn nerth yr Ysbryd. Roedd dod yn wir ddyn yn golygu fod Iesu’n cyflawni ei weinidogaeth gan bwyso ar yr Ysbryd. (nid wrth fesur y bydd Duw yn rhoi’r Ysbryd. Ioan 3:34)

Os oedd Duw yn anfon ei Fab i’r byd gyda’r Ysbryd Glân yno i’w arwain, i’w nerthu, i’w gyfarwyddo, pa faint mwy y bydd yn anfon yr Ysbryd i ni i’n nerthu, i’n harwain, i’n cyfarwyddo?

A thra oedd gyda hwy, gorchmynnodd iddynt beidio ag ymadael o Jerwsalem, ond disgwyl am yr hyn a addawodd y Tad. “Fe glywsoch am hyn gennyf fi,” meddai. “Oherwydd â dŵr y bedyddiodd Ioan, ond fe’ch bedyddir chwi â’r Ysbryd Glân ymhen ychydig ddyddiau.”…Ond fe dderbyniwch nerth wedi i’r Ysbryd Glân ddod arnoch, a byddwch yn dystion i mi yn Jerwsalem, ac yn holl Jwdea a Samaria, a hyd eithaf y ddaear.” (Actau 1:4-5,8)

Neu fel y dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion wedi’r atgyfodiad:“Tangnefedd i chwi! Fel y mae’r Tad wedi fy anfon i, yr wyf fi hefyd yn eich anfon chwi.” Ac wedi dweud hyn, anadlodd arnynt a dweud: “Derbyniwch yr Ysbryd Glân”. (Ioan 20:21-22)