Go brin fod yna un olygfa mwy dwys na honno lle gwelwn Iesu yn plygu ei ben mewn gweddi ingol yng Ngardd Gethsemane. Roedd o fewn dim i gael ei fradychu, a’i osod ar y llwybr a fyddai’n arwain at farwolaeth greulon y groes. Yr hyn mae llawer yn methu ei weld wrth ystyried hyn yw, beth yn union oedd yn peri y fath ofid i’r Gwaredwr. Mae’r ffilm The Passion yn dangos difrifoldeb y poen corfforol a’r cywilydd gerbron y byd. Ond nid hwnnw oedd yn peri i Iesu ofidio cymaint.

Y gofid oedd ei fod ar fin gwisgo ein holl ddrygioni – y drygioni oedd mor wrthun iddo ag unrhyw wenwyn i ni. Byddai’r drygioni hwnnw yn dwyn canlyniad ofnadwy – canlyniad yn ei berthynas gyda’i Dad. Byddai’r Tad yn troi ei gefn ar y pechod, a Christ oedd  bob amser wedi mwynhau perthynas lawn gyda’i Dad, yn wynebu tywyllwch eithaf drosom. Byddai’n galw allan –  “Eli, Eli, lema sabachthani”, hynny yw, “Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?” (Mathew 27:46) Ni allai ar y foment honno hyd yn oed ei law’n Dad. A dyma oedd yn peri iddo chwysu dafnau o waed. (Luc 22:44)

Dyma le i oedi, a rhyfeddu. Dyma emyn am yr hanes. (Gallwch ei chlywed ar dudalen Cerddoriaeth y safle hon – rhif 09)

Dwg fi i Fynydd yr Olewydd
Lle mae ‘Ngheidwad yn yr ardd;
Chwŷs fel dafnau gwaed yn disgyn
Hyd ei ruddiau hardd.

Beth yw’r ymdrech sy’n ei enaid?
Pam bod hwn sy’n Frenin Nef
 gofidiau dwys hyd angau
Yn ei galon Ef?

Cwpan sydd o’i flaen i’w hyfed –
Cwpan chwerw angau loes;
Tâl pechodau myrdd o ddynion
Ar unigrwydd croes.

A wnaiff Iesu wrthod yfed?
A yw’r baich rhy fawr i’w ddwyn?
Gwêl E’n estyn am y cwpan –
Yfa er dy fwyn.

Dysg im, Iesu, faint dy ymdrech,
Dysg im werth y dafnau gwaed;
Yn dragywydd gwnaf dy ddilyn,
Llechaf wrth dy draed.
© Dafydd M. Job

Categories: Pasg