Gardd Gethsemane

Go brin fod yna un olygfa mwy dwys na honno lle gwelwn Iesu yn plygu ei ben mewn gweddi ingol yng Ngardd Gethsemane. Roedd o fewn dim i gael ei fradychu, a’i osod ar y llwybr a fyddai’n arwain at farwolaeth greulon y groes. Yr hyn mae llawer yn methu ei weld wrth ystyried hyn yw, beth yn union oedd yn peri y fath ofid i’r Gwaredwr. Mae’r ffilm The Passion yn dangos difrifoldeb y poen corfforol a’r cywilydd gerbron y byd. Ond nid hwnnw oedd yn peri i Iesu ofidio cymaint. (rhagor…)

Dydd Llun Palmwydd

Deffrôdd yr ebol asyn yn llawn cynnwrf, ac wrth i’r dydd ddeffro dechreuodd ar ei daith.

“Dyma fi” meddai wrth bawb a gwrddai ar y ffordd, ond doedd neb yn cymryd sylw ohono. Aeth i mewn i’r dref a’i ben yn uchel, ond er mawr syndod iddo, doedd neb yn aros, neb yn falch o’i weld. Aeth i mewn i’r farchnad yn llawen, gan ddweud – “taflwch eich dillad ar lawr o’m blaen!” Ond roedd pobl yn dechrau troi arno a gweiddi arno’n gas – Dos oddi yma! Beth wyt ti’n ei wneud yma? (rhagor…)