Deffrôdd yr ebol asyn yn llawn cynnwrf, ac wrth i’r dydd ddeffro dechreuodd ar ei daith.

“Dyma fi” meddai wrth bawb a gwrddai ar y ffordd, ond doedd neb yn cymryd sylw ohono. Aeth i mewn i’r dref a’i ben yn uchel, ond er mawr syndod iddo, doedd neb yn aros, neb yn falch o’i weld. Aeth i mewn i’r farchnad yn llawen, gan ddweud – “taflwch eich dillad ar lawr o’m blaen!” Ond roedd pobl yn dechrau troi arno a gweiddi arno’n gas – Dos oddi yma! Beth wyt ti’n ei wneud yma?

Dychwelodd adref at ei fam yn benisel a dweud – “Dwi ddim yn deall – ddoe roedd pawb yn gweiddi hosanna, a thaflu canghennau palmwydd a dillad ar y llawr o fy mlaen, ond heddiw doedd neb yn falch o fy ngweld.”

“O’r asyn bach gwirion!” atebodd ei fam, “Dwyt ti ddim yn sylweddoli – hebddo Ef ni allwn ni wneud dim.”

(Wedi ei addasu o’r Saesneg) (Cymharer Mathew Pennod 21:1-10)

Pwy fyddwn ni’n ei gario i mewn i’r wythnos hon?