Erbyn hyn rwyf wedi cyrraedd gwlad Pŵyl, ac mewn gwesty anferth yn ne’r wlad, heb fod yn bell iawn o’r ffîn â’r weriniaeth Tsiec.  Y rheswm dros ddod yma yw i gymryd rhan mewn cynhadledd i arweinwyr Cristnogol o Ewrop a thu hwnt (yr European Leadership Forum, neu ELF fel mae pawb yn ei alw). Bum yn dod i’r gynhadledd ers sawl blwyddyn, a gan fod heddiw yn ddiwrnod eithaf tawel dyma fachu ar y cyfle i osod ychydig i lawr cyn y prysurdeb mawr.ELF1

Mae tua 700 o bobl yn mynychu’r gynhdledd eleni, o bob math o wahanol feysydd. Ceir cyfle i ddilyn llwybrau amrywiol – mae 22 llwybr gwahanol o’r un i wyddonwyr, arweinwyr mudiadau Cristnogol, Gwleidyddiaeth â’r Gymdeithas, i bethau mwy uniongyrchol eglwysig fel y llwybr i bregethwyr, rhai’n plannu eglwysi, a diwinyddion. Yn ogystal â’r llwybrau hyn ceir cyfarfodydd lle mae pawb gyda’i gilydd yn gwrando ar siaradwyr arbennig, a gweithdai amrywiol (Ceir tua 27 gweithdy bob dydd, gyda’r cyfle i bob cynadleddwr fynychu dau ohonyn nhw.)

Yn ogystal â’r gweithgareddau hyn mae cyfle i bobl gael eu mentora, sef treulio awr yng nghwmni arweinydd mwy profiadol i drafod eu cwestiynau.

Yr hyn sy’n fwyaf cyffrous i mi yn y cyfan yw’r cymdeithasu neu rhwydweithio sy’n digwydd. Daw’r cynadleddwyr o amrywiol sefyllfaoedd – nifer fawr ohonynt o Ddwyrain Ewrop. Ond bydd yna rai o bob cyfandir yma (heblaw am begwn y de!). Mae clywed eu hanes, a chael gwybod am y modd mae Duw ar waith yn eu sefyllfaoedd  nhw bob amser yn ysbrydiaeth.

Neithiwr bum mewn cyfarfod ar gyfer y siaradwyr, lle roeddem yn cael gwybod am y datblygiadau sy’n digwydd trwy gyfrwng y Fforwm. Oherwydd nid cynhadledd am un wythnos yn unig yw hon. Mae’n esgor ar rwydweithiau sy’n gweithio drwy’r flwyddyn i gynorthwyo Cristnogion ar draws ein cyfandir. Bydd siaradwyr oddi yma yn ymweld â gwahanol wledydd. Bydd llawer o sgyrsiau ac adnoddau o’r gynhadledd yn cael eu gosod i fyny ar y we. Ceir seminarau dros y we drwy’r flwyddyn (eleni disgwylir y bydd tua 400 seminar yn defnyddio SKYPE i rannu dysgeidiaeth ac adnoddau.

Bore heddiw bum mewn un sgwrs ar bregethu. Mae bob amser yn fuddiol i bregethwr gael gweld sut mae pobl eraill yn gwneud eu gwaith. Prynhawn yma, er fod cyfle i fynd i seminarau, bum yn sgwrsio gyda nifer o rai sy’n dod yma o flwyddyn i flwyddyn. Heno ceir sessiwn i bawb gyda Glyn Harrison yn anerch. Mae Glyn yn seiciatrydd sydd wedi ymddeol. Bu’n athro seiciatreg ym Mhrifysgol Bryste. Mae ei lyfr diweddaraf The Big Ego Trip yn trafod obsessiwn ein cymdeithas gyfoes gyda’r hunan. Felly rwy’n edrych ymlaen at yr wythnos.

Byddaf yn ceisio gosod yr hanes ar y blog pan ddaw’r cyfle yn ystod yr wythnos.