Y Diwrnod Olaf

Daeth diwrnod olaf y gynhadledd. Diwrnod yn rhydd o fentora oedd hwn, felly roedd y prydau bwyd yn gyfle i sgwrsio’n fwy hamddenol gyda chyfeillion. Dyna Jonathan Stephen a Joel Morris o goleg WEST ym Mryntirion. Mae’r cysylltiadau sy’n gallu codi yma yn fawr ac rwyf wedi llwyddo i gyflwyno ambell un iddyn nhw. Wedyn dyna sgwrs gyda gweinidog o Hwngari. Roedd ei wraig wedi cael gweithdy a arweiniais llynedd yn gymorth mawr, ac roedd hynny’n galondid i minnau yn fy nhro. (rhagor…)

Gair o Wlad Pŵyl

Erbyn hyn rwyf wedi cyrraedd gwlad Pŵyl, ac mewn gwesty anferth yn ne’r wlad, heb fod yn bell iawn o’r ffîn â’r weriniaeth Tsiec.  Y rheswm dros ddod yma yw i gymryd rhan mewn cynhadledd i arweinwyr Cristnogol o Ewrop a thu hwnt (yr European Leadership Forum, neu ELF fel mae pawb yn ei alw). Bum yn dod i’r gynhadledd ers sawl blwyddyn, a gan fod heddiw yn ddiwrnod eithaf tawel dyma fachu ar y cyfle i osod ychydig i lawr cyn y prysurdeb mawr.ELF1 (rhagor…)