Roedd Dydd Mawrth yn ddiwrnod ychydig yn ysgafnach i mi. Roeddwn yn mentora gweinidog ifanc o Rwmania am saith y bore. Mae ganddo eglwys fechn iawn o 17 aelod, a dim llawer o gefnogaeth yn y sefyllfa. Felly roedd yn gwerthfawrogi rhannu ei faich a chael rhywfaint o gyngor.

Yna yn y cyfarfod i bawb am hanner awr wedi wyth cawsom ein harwain gan Stefan Gustavsson i ystyried hanes Asaff, trwy edrych ar Salm 73. Teitl ei astudiaeth oedd “Os yw Duw yn dda, pam nad ydi O?” Y broblem fawr oedd yn wynebu Asaff oedd y gwrthdaro rhwng ei gred, fod Duw yn dda ac yn gwobrwyo’r ffyddloniaid, â’i brofiad fod y duwiol yn dioddef a’r drygionus yn llwyddo. Roedd ei neges yn rymus, ac wrth i bawb ganu gyda’i gilydd wedi ei anerchiad roedd yna ymdeimlad o bresenoldeb amlwg Duw yn y lle.

Yn y ffrwd Apologeteg oedd yn dilyn cawsom ddwy sgwrs i ysgogi’r meddwl. Yn y cyntaf roedd Kevin Lewis, Darlithydd yn Mhrifysgol Biola yn yr Unol Daleithiau, yn rhoi’r rhybudd fod yn rhaid i ni lynnu wrth ein neges. Perygl rhai sy’n ceisio egluro’r efengyl i anghredinwyr yw newid y neges er mwyn bod yn dderbyniol i eraill, a gweld niferoedd yn codi. Ond mae neges yr egenfyl yn ddigyfnewid. Dilynwyd hyn gan ymateb deg munud gan David Robertson, gweinidog o Eglwys Rydd yr Alban. Roedd yntau yn rhoi cyd-bwysedd i’r ddadl, oherwydd mae’n rhy hawdd cuddio y tu ôl i ymadroddion megis “Sola Scriptura” – Yr Ysgrythur yn unig – heb gofio fod yr Ysgrythur ei hun yn tystio fod y greadigaeth yn dadtgan pethau am Dduw, a bod yr eglwys trwy ei bywyd yn gallu perswadio pobl.

Dilynwyd hyn gan sgwrs gan Peter Williams ar y modd rydym yn defnyddio dadleuon hanesyddol yn ein apologeteg. Sut a phryd yw’r amser i ddefnyddio dadleuon sy’n sôn am pa mor ddibynadwy yw’r Beibl – tystiolaeth am y dogfennau, a’r ddadl o broffwydoliaeth. Mae sail hanesyddol Cristnogaeth yn ei gosod arwahán i’r crefyddau mawr eraill. (Mae’r eglwys gartref yn siwr o glywed dipyn o’r dadleuon hyn wedi i mi ddod adref.)

Bum yn mentora gŵr sy’n byw yn Genefa amser cinio. Mae ganddo weinidogaeth ymhlith gweithwyr y Cenhedloedd Unedig a gwŷr busnes yr ardal. Yna yn y prynhawn nid oeddwn yn mynychu gweithdai gan fy mod yn gorfod rhoi cyfweliad ar fideo i’r Fforwm. Mae gwaith y fforwm yn parhau y tu hwnt i’r wythnos hon, ac mae ganddynt safle we gyda llawer o adnoddau arni. Felly roeddwn yn rhoi cyfweliad ynglyn â chynnwys fy ngweithdy dydd Sul.

ELF4Cefais rhywfaint o orffwys gweddill y prynhawn, ac wedi swper yng nghyfarfod yr hwyr roedd Os Guiness yn rhoi sgwrs yn seiliedig ar ei lyfr: The Call. Ei ddadl yw, er fod yna rai Cristnogion yn derbyn galwad arbennig i weithgaredd arbennig, mae pob Cristion wedi ei alw. Y bywyd gwerth chweil ydyw’r bywyd wedi ei fyw er gogoniant i Dduw. Roedd yn neges rymus tu hwnt.

Diwrnod o gymdeithasu, rhannu, dysgu a gwasanaethu oedd hwn eto. Mae’n fraint cael bod yn rhan o’r fath waith.