Daeth diwrnod olaf y gynhadledd. Diwrnod yn rhydd o fentora oedd hwn, felly roedd y prydau bwyd yn gyfle i sgwrsio’n fwy hamddenol gyda chyfeillion. Dyna Jonathan Stephen a Joel Morris o goleg WEST ym Mryntirion. Mae’r cysylltiadau sy’n gallu codi yma yn fawr ac rwyf wedi llwyddo i gyflwyno ambell un iddyn nhw. Wedyn dyna sgwrs gyda gweinidog o Hwngari. Roedd ei wraig wedi cael gweithdy a arweiniais llynedd yn gymorth mawr, ac roedd hynny’n galondid i minnau yn fy nhro. Yna roedd Ellis Potter yn un arall y cefais ei gwmni. Dyma gymeriad arbennig iawn. Bu’n fynach bwdaidd am rai blynyddoedd, ac aeth i L’Abri yn y Swistir er mwyn ceisio perswadio Francis Schaeffer i droi yn Fwdydd! Wedi treulio peth amser yno, Nid Schaeffer a drowyd, ond Ellis, a bu’n weinidog ac efengylydd ers hynny, gyda gallu arbennig oherwydd ei hanes i gyrraedd rhai oedd yn dilyn crefyddau’r dwyrain gyda’r efengyl.

Yr hanes gymerwyd gan Stefan Gustavsson heddiw yng nghyfarfod cyntaf y bore oedd hanes Tomos yr amheuwr. Y cwestiwn mawr a gododd Steffan ar y dechrau oedd, ble mae gennym lecyn diogel a chadarn i seilio ein bywyd arno. Arweiniodd ni i weld gogoniant yr Atgyfodiad. Er i Tomos ddechrau fel amheuwr, nid yn y fan honno y parhaodd. Daeth yn apostol dewr, a thyst cadarn i Grist, gan ddwyn yr efengyl yn ôl traddodiad mor bell â’r India.

Wrth i ni rannu yn ffrydiau, cawsom ein harwain gan Ellis Potter yn y sessiwn gyntaf i ystyried beth sy’n gwneud synnwyr o’n byd ni. Mae yna gred gyffredinol fod oethau wedi dechrau’n well, bod rhywbeth wedi mynd o’i le, ac y daw’r cyfan i drefn eto. Beth sy’n egluro hyn orau? Awgrymodd fod yna dri posibilrwydd – monistiaeth, deuoliaeth, neu drindodiaeth. Dangosodd sut mae Trindodiaeth yn egluro cyflwr ein byd orau, a sut felly mae dadlau neu egluro’r efengyl i rai sy’n arddel ffordd arall.

Yn ail sessiwn ein ffrwd cawsom ein harwain gan David Robertson, gweinidog yn Eglwys Rydd yr Alban. Mae David yn aml yn cymryd rhan mewn dadleuon cyhoeddus ar wahanol faterion. Ei arweiniad bore heddiw oedd y modd mae defnyddio’r ddadl gyfoes ar briodas hoyw i gyflwyno cariad Crist i bobl. Roedd yn dangos doethineb mawr yn y ffordd roedd yn siarad, ac yn gymorth mawr i fedru meddwl sut mae trafod pwnc sy’n peri cymaint o ofid yn ein dydd ni.

Wedi cinio penderfynais na fyddwn yn mynychu gweithdai’r prynhawn, gan fy mod yn gorfod codi’n gynnar iawn yn y bore i gael tacsi i gyrraedd yr awyren. Bum yn darllen ychydig ar lyfr Glynn Harrison – The Big Ego Trip – sy’n trafod agwedd y gymdeithas fodern at hunan-werth (self-esteem). Gwelais Glyn a gofynais yn gellweirus os oedd yn ddiogel i mi ofyn iddo fo arwyddo ei lyfr i mi (heb gynyddu ei Ego yn ormod!). Bum yn sgwrsio gyda rhai cyfeillion hefyd, gan gynnwys Angelo, Americanwr sy’n byw ym Mhrâg ar hyn o bryd ac yn gweithio ar rai o lawysgrifau dau arwrw i mi – Jan Huss, seren fore’r Diwygiad Protestannaidd, a Vaclav Havel, arweinydd chwyldro Melfed Prâg.

Heno roedd Becky Pippert yn annerch yn sessiwn olaf y gynhadledd. Ei thema oedd Nerth Duw yn ein gwendid ni. Daw ein hawdurdod i gyhoeddi’r efengyl oddi wrth Dduw’r Tad. Neges ein hefengyl yw Duw’r Mab, Iesu Grist, a chynnwys y neges yw ei fod, er yn Dduw, wedi cymryd ein gwendid arno’i hun. Daw’r nerth i gyhoeddi’r neges drwy Dduw’r Ysbryd. Ond mae’r neges yn cael ei chludo mewn llestri pridd. Mae ei gonestrwydd am ei hymdrechion hi i rannu’r efengyl yn rhoi hyder i eraill ohonom i fentro rhannu.

Bu’n gynhadledd fendithiol mewn sawl ffordd, ond byddaf yn falch o gyrraedd adref yfory. Daw cyfle wedyn i grynhoi rhai o argraffiadau arbennig yr wythnos.