Ydech chi’n un o’r bobl hyn sy’n paratoi popeth mewn digon o amser, neu ai rhywun munud olaf ydych chi? Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gymysgedd o’r ddau. Mewn rhai pethau byddwn wedi meddwl digon o flaen llaw, ond mae yna bethau eraill sy’n cael eu gosod o’r neilltu tan y foment hwyraf posib. Mae Gŵyl y Geni yn tynnu allan y gwahaniaeth mewn llawer. Bydd rhai yn gwbl drefnus wythnosau o flaen llaw, tra bydd eraill yn sgramblo i gael yr anrheg olaf ar Noswyl Nadolig.

Ond nid sgrambl oedd hi i drefnu’r Nadolig cyntaf. Roedd Duw wedi trefnu’r cwbl ymhell o flaen llaw. Roedd diwinyddion y canol oesoedd yn ceisio dyfalu beth oedd Duw yn ei wneud cyn iddo greu’r bydysawd. Cafwyd trafodaethau di-rif i ystyried y mater. Ond mae’r Beibl ei hun yn dweud wrthym rai pethau.gofod2

Fe ddywedodd Iesu wrth weddïo ar ei Dad un o’r pethau oedd yn digwydd cyn bod amser. Roedd yn nesáu at y gwaith mawr o farw trosom ar y groes, ac fe ofynodd i’r Tad gadw y rhai oedd yn credu ynddo “er mwyn iddynt weld fy ngogoniant, y gogoniant a roddaist i mi oherwydd i ti fy ngharu cyn seilio’r byd. (Ioan 17:24 BCN) Roedd Iesu’n dweud fod y Tad yn ei garu, ac yn meddwl am ffordd o ddangos gogoniant rhyfeddol ei Fab tragwyddol. A’r cynllun oedd ei fod yn mynd i ddod i’r byd yn gyfrwng gwir fywyd i rai cwbl anheilwng, trwy eu caru â chariad anhygoel.

Eto, mae Pedr yn dweud am Grist: Yr oedd Duw wedi ei ddewis cyn seilio’r byd, ac amlygwyd ef yn niwedd yr amserau er eich mwyn chwi 21 sydd drwyddo ef yn credu yn Nuw, yr hwn a’i cyfododd ef oddi wrth y meirw ac a roes iddo ogoniant, fel y byddai eich ffydd a’ch gobaith chwi yn Nuw. (1 Pedr 1:20-21) Roedd Duw yn trefnu’r Nadolig yn ôl cyn i’r byd gael ei greu, ac yn wir cyn i amser gael ei greu. Ac ar yr amser iawn fe ddaeth i’r byd er ein mwyn ni.

Nid ymateb i broblem annisgwyl oedd wedi ymddangos oedd Duw wrth anfon ei Fab i’r byd. Roedd wedi trefnu’r cwbl o flaen llaw. A dyna pham bod cymaint o bethau ym mywyd y Gwaredwr yn cyflawni yr hyn a broffwydwyd yn yr Hen Destament, ganrifoedd cyn ei eni.

Mae hyn yn gysur rhyfeddol i Gristnogion. Nid cynllun munud olaf i’n helpu a’n hachub oedd yr efengyl, ond bwriad pendant a grasol Duw o’r dechrau. Dyna le i lawenhau a diolch heddiw am y Nadolig.

Yn y dydd cyn dyfod dyddiau
Trefnwyd dydd dy ddyfod Di;
Trefnwyd bore gwyn y geni
Cyn goleuo’n daear ni;
Cyn bod pechod,Trefnwyd cymod
Trwy gyfamod Perffaith Drindod;
Trefnwyd aberth trosom ni;
Trefnwyd aberth trosom ni.