9186567-illustration-of-traditional-christian-christmas-nativity-scenePa eiriau fyddwch chi’n eu cysylltu gyda hanes Gŵyl y Geni tybed? Mae yna nifer o eiriau ddaw i’m meddwl i, a tydi’r blynyddoedd ddim yn eu newid:

Dirgelwch. Mae’r hanes fel mae wedi ei gofnodi yn rhoi llawer o le i’r dychymyg, oherwydd mae yna gymaint sydd mewn un ystyr y tu hwnt i’n profiad a’n hamgyffred ni. Pwy ohonom ni sydd wedi cael ymweliad gan angel? Wyddom ni ddim sut olwg oedd ar Gabriel, ac er i’r arlunwyr ar draws y canrifoedd geisio gadael i’w dychymyg redeg, go brin eu bod nhw wedi dod yn agos at y realiti. Yna mae’r Seren. Bu’r astronomyddion yn ceisio dyfalu ai Comed Halley oedd hon, neu rhyw gyfuniad o sêr a’u llwybrau yn cyd-daro mewn perthynas â’r ddaear. Yna wrth gwrs mae’r dirgelwch eithaf – sut daeth yr Ysbryd Glân ar Mair a pheri bod Duw yn cael ei genhedlu rhywsut yn ei chroth? Sut daeth y Gair yn gnawd? Mae’n ddirgelwch.

Cymrodd rhai yr elfennau hyn fel rheswm i wrthod yr hanes fel ffantasi. Ond mae llawer o bethau sy’n ddirgelwch i ni – eto rydym yn eu derbyn yn llawen. Does gen i ddim syniad sut mae’r botymau rydw i’n eu pwyso ar y cyfrifiadur hwn yn peri i lythrennau ymddangos ar y sgrîn o’m blaen, na sut y bydd y cyfan yn ymddangos ar gyfrifiaduron y rhai sy’n darllen y blog hwn mewn rhannau eraill o’r byd. Mae’n ddirgelwch ond mi fedra i ei gredu. Tydi dirgelwch hanes y Geni ddim yn rhwystr ychwaith i mi fedru ei gredu.

Un arall o’r geiriau rwy’n ei gysylltu gyda’r ŵyl yw Rhyfeddod. Roedd Elisabeth yn rhyfeddu fod mam ei Harglwydd wedi dod i’w gweld (Luc 1:43). Roedd y bobl yn rhyfeddu wrth glywed Sachareias yn proffwydo ar enedigaeth Ioan Fedyddiwr (Luc 1:65). Dyna’r bugeiliaid wedyn a’r bobl a glywodd eu tystiolaeth am ymweliad yr angylion (Luc 2:18). Ond i mi y rhyfeddod mwyaf yw nid y digwyddiadau anarferol hyn, ond y DIGWYDDIAD. Mae’r ffaith fod Duw wedi ein caru ni, ac wedi danfon ei Fab i’r byd er ein mwyn yn codi’r cwestiwn mawr hwnnw roddodd John Elias yn ei emyn enwog: Ai am fy meiau i dioddefodd Iesu mawr, pan ddaeth yng ngrym ei gariad Ef o entrych nef i lawr?

Trydydd gair rydw i’n ei gysylltu gyda’r Nadolig yw Llawenydd. Mae’n wir fod yna lawenydd yn yr anrhegion a’r bwyd a’r hwyl. Ond rwy’n dal i gofio’r Nadolig cyntaf hwnnw wedi i mi ddod i gredu, yn ôl ym 1973, ddeugain mlynedd yn ôl. Roedd y carolau yn sydyn yn llawn ystyr, ac roedd yna asbri newydd yn fy nghalon wrth i mi eu canu. Mae’r llawenydd yn parháu heddiw. Mae i’w glywed yng Nghân Mair (Luc 1:46, 47), yn ymateb y sêr ddewiniaid o weld y seren (Mathew 2:10), ac yng ngorfoledd Simeon. (Luc 2:28 – 32)

Pa eiriau fyddwch chi’n eu cysylltu â’r ŵyl tybed?

Wele’n gwawrio ddydd i’w gofio,                                       Duw a’n cofiodd, Duw a’n carodd,
Geni Seilo, gorau swydd;                                                    Duw osododd Iesu’n Iawn;
Wele ddynion mwyn a moddion                                        Duw er syndod ddarfu ganfod
Ddont a rhoddion iddo’n rhwydd.                                     Trefn gollyngdod inni’n llawn.
Hen addewid Eden odiaeth                                                Duw ryfeddir, iddo cenir
Wele heddiw ddaeth i ben;                                                 Gan drigolion nef a llawr,
Wele drefniad dwyfol gariad                                              Tra bydd Iesu, fu mewn gwaeledd,
O flaen ein llygad heb un llen.                                            ‘N eistedd ar yr orsedd fawr.

Haleliwia! Haleliwia!
Aeth i’r lladdfa yn ein lle;
Haleliwia! Haleliwia!
Duw sy’n fodlon ynddo fe.
Sain Hosanna i Fab Dafydd,
Iesu beunydd fyddo’n ben;
Am ei haeddiant sy’n ogoniant
Bydded moliant mwy. Amen.