Tymor yr Adfent xiii

self-help-600tUn o’r teitlau roddir i Iesu yn Eseia 9:6 yw “Cynghorwr rhyfeddol”. Mae hyn yn ymddangos yn nodwedd hynod o berthnasol i’n hoes ni. Rydym yn byw ar adeg lle mae cymaint o gwestiynau yn ein wynebu – mae technoleg newydd wedi rhoi’r gallu i ni wneud pethau na allai ein teidiau a’n neiniau ddim dychmygu fyddai’n bosib. (rhagor…)

Tymor yr Adfent xxi

Ddoe, a minnau wedi mynd allan i ymweld â rhywun, roeddwn yn gwrando ar y radio yn y car. Classic FM oedd yr orsaf, a minnau’n mwynhau’r gerddoriaeth. Wrth i mi nesáu at y tŷ, dyma’r darlledwr yn cyhoeddi – mewn dau funud roedden nhw’n mynd i chwarae gurino-lightsFINALrecordiad o ryw bianydd rhyfeddol oedd newydd ymddangos – y gair ddefnyddiwyd oedd – unmissable. Wel, mi wnes i ei fethu. Erbyn mynd i mewn i’r tŷ, daeth cant a mil o bethau eraill i lenwi fy mryd, ac felly mi fethais glywed y gerddoriaeth ragorol oedd wedi ei addo. (rhagor…)

Tymor yr Adfent xx

“Dwi’n methu aros!” – Mae’n ymadrodd sydd wedi ei ddweud gan lawer o blant dros y blynyddoedd wrth feddwl am y diwrnod mawr – y diwrnod pryd y bydd Siôn Corn wedi cyrraedd a’r anrhegion yn cael eu hagor. Mae llawer mwy ohonom, er efallai na fyddem yn defnyddio’r ymadrodd, eto wedi teimlo’r un fath – efallai nid am ddydd Nadolig ond rhyw ddigwyddiad arall – y gwyliau yn dechrau, cyfarfod â rhywun, diwrnod priodas… gallwch chi feddwl am yr hyn rydych chi wedi bod yn dyheu amdano. Ond weithiau rydym yn gorfod aros – aros nes ein bod hyd yn oed yn amau os cawn ni gyrraedd y diwrnod neu’r digwyddiad. (rhagor…)

Tymor yr Adfent xviii

Un o wirioneddau mawr ein bywydau ni ydi fod pethau yn digwydd sydd y tu hwnt i’n gallu ni i’w rheoli. O’r tywydd, i ymateb ffrindiau, i iechyd, tydi pethau ddim yn digwydd i reol. Er hynny rydym ni am geisio gosod trefn arnyn nhw. Dyna ran o ymdrech bywyd – gallu rheoli neu lywodraethu fel ein bod yn gwybod beth sy’n digwydd a phryd mae o’n digwydd. (rhagor…)

Tymor yr Adfent xvii

download (2)Ddoe roeddwn i’n sôn am yr adnod honno sydd mor gyfarwydd i ni: Canys bachgen a aned i ni, mab a roed i ni, a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd. (Eseia 9:6) Peth arall sy’n amlwg o’r adnod hon yw mai anrheg yw efengyl Iesu Grist i ni – Mab a roddwyd yw hwn. (rhagor…)

Tymor yr Adfent xvi

Familiarity breeds contempt meddai’r hen air. Efallai mai gwireb fwy cywir parthed hanes y Nadoilig fyddai’r hyn ddywedodd rhywun arall yn ddiweddar: Familiarity breeds inattention. Rydym mor gyfarwydd â rhai geiriau ac adnodau, fel nad ydym yn meddwl yn ddwfn iawn am eu hystyr, Cymrwch chi’r adnod honno o Eseia:

Canys bachgen a aned i ni, mab a roed i ni, a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd. (Eseia 9:6)

(rhagor…)

Tymor yr Adfent xv

_71750229_71750228Heddiw mae sylw mawrion y byd ar lecyn tlawd, diarffordd o’r enw Qunu yn Ne Affrica. Does yna ddim arbenigrwydd mawr i’r lle. Mae’n ardal ddigon hardd ond does dim dinas fawr yno. Does yna ddim diwydiant trwm, neu fwyngloddiau, neu brifysgol i ddod â chyfoeth nac arbenigrwydd i’r ardal. Ond yno y ganwyd Nelson Mandela, ac yno heddiw fe’i cleddir, lle mae ei gyndadau a thri o’i feibion wedi eu claddu. Dyna sydd wedi gosod y lle ar y map – mae’r mab a anwyd yno wedi ei wneud yn fan y bydd pobl yn teithio iddo i dalu gwrogaeth i’r dyn fu mor allweddol yn hanes diweddar y wlad. (rhagor…)