Un o’r penawdau ar y gwasanaeth testun ar y teledu bore ‘ma oedd “Countdown begins for comet chaser”. Mae’n debyg fod yna loeren ym mhellteroedd y gofod, ac mae gwyddonwyr am beri iddi lanio ar gomed. Eu gobaith yw y bydd modd darganfod download (3)gwybodaeth am ddechreuadau ein sustem solar, gan gynnwys sut olwg oedd ar y sustem cyn llunio’r planedau.

Wrth gwrs, nid y gwyddonwyr hyn yw’r bobl cyntaf i geisio dilyn comed. Fyddai yr un ddrama Nadolig yn gyflawn heb y doethion (neu’r sêr ddewiniaid) a ddaeth o’r dwyrain yn dilyn y seren i Fethlehem.

Mae’n ddiddorol nodi’r hyn mae gwahanol rai yn ei weld yn y sêr. Mae rhai gwyddonwyr cyfoes (nid pawb o bell ffordd), yn edrych ar y sêr a gweld rhyw broses ddigyfeiriad, heb unrhyw reswm y tu ôl iddi. Mae trefn natur iddyn nhw ond yn ddamweiniol. Felly bydd gweld beth ellir ei ddysgu drwy lanio’r loeren ar gomed yn rhoi modd i ni wybod am y bydysawd, ond dim mwy na hynny.

Mor wahanol oedd meddwl rhai o wyddonwyr cynnar yr oes fodern. Cymrwch chi Johannes Kepler, a ddiffiniodd gwyddoniaeth fel “meddwl meddyliau Duw ar ei ôl.” Roedd rhai fel Isaac Newton yn credu fod trefn yn y greadigaeth oherwydd fod yna Un wedi ei drefnu: “This most beautiful system of the sun, planets, and comets, could only proceed from the counsel and dominion of an intelligent and powerful Being. ..Atheism is so senseless. When I look at the solar system, I see the earth at the right distance from the sun to receive the proper amounts of heat and light. This did not happen by chance.”

Fel Seren Bethlehem, iddyn nhw roedd y greadigaeth yn pwyntio ymlaen at rhywbeth, neu ryw Un mwy. Dyma wnaeth y sêr ddewiniaid ym Methlehem yn ddoethion. Unwaith roedden nhw wedi cyrraedd y baban oedd yn Frenin, fe anghofiwyd am y seren yn y rhyfeddod mwy.

Carol Seren Bethlehem

Pan gefaist ti dy danio
Wyddet ti, wyddet ti?
A’th osod ar dy gylchdro,
Wyddet ti
Y rheswm am d’oleuo
A’th ddanfon fyth i grwydro
Drwy’r gofod dro ac eildro,
Wyddet ti, wyddet ti?
I wybren dyn i deithio,
Wyddet ti?

A deithiaist ar dy union
Ato Ef, Ato Ef,
Drwy’r eangderau meithion
Ato Ef?
Draw heibio i Orïon,
Pleiades, Mawrth a Neifion
I gwmni yr angylion
Ato Ef, Ato Ef,
Uwch bryniau beichiog Seion
Ato Ef?

A synnaist ti o’i ganfod
Yn y crud, yn y crud?
Dy Grëwr yno’n ddinod
Yn y crud?
Bugeiliaid llwm yn trafod,
A’r doethion, mewn mudandod,
A Duw yn ceisio cysgod
Yn y crud, yn y crud,
A’r byd heb ei adnabod
Yn y crud.

Ar ôl goleuo’r beudy
Rhaid oedd mynd, rhaid oedd mynd,
I bellter oer y fagddu,
Rhaid oedd mynd;
Bodlonaist ar lewyrchu
Am ennyd, a diflannu,
I’w olau Ef dywynnu,
Rhaid oedd mynd, rhaid oedd mynd –
 Herod yn dadebru,
Rhaid oedd mynd.

© Dafydd M Job