Adfent 2014
Tymor yr Adfent 2014, 24
Wedi i’r angylion fynd ymaith oddi wrthynt i’r nef, dechreuodd y bugeiliaid ddweud wrth ei gilydd, “Gadewch inni fynd i Fethlehem a gweld yr hyn sydd wedi digwydd, y peth yr hysbysodd yr Arglwydd ni amdano.” (Luc 2:15 BCN)
Wrth fynd â’r ci am dro yn gynnar bore ma, roedd yr awyr uwch fy mhen yn glir. Roedd cymylau a glaw ddoe wedi diflannu a’r sêr yn disgleirio. Roedd yn hawdd dychmygu’r bugeiliaid hynny dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl ar fryniau Jwdea yn gwylio’r un sêr, ac yn gofalu am eu praidd. (rhagor…)
Yna cododd a mynd at ei dad. A phan oedd eto ymhell i ffwrdd, gwelodd ei dad ef. Tosturiodd wrtho, rhedodd ato, a rhoes ei freichiau am ei wddf a’i gusanu. (Luc 15:20 BCN)
“Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith y rhai sydd wrth ei fodd. ” (Luc 2:14 BCN)
Yn sydyn ymddangosodd gyda’r angel dyrfa o’r llu nefol, yn moli Duw gan ddweud: “Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith y rhai sydd wrth ei fodd. ” (Luc 2:13-14 BCN)
Fel hyn y bu genedigaeth Iesu Grist. Pan oedd Mair ei fam wedi ei dyweddïo i Joseff, cyn iddynt ddod at ei gilydd fe gafwyd ei bod hi’n feichiog o’r Ysbryd Glân. A chan ei fod yn ddyn cyfiawn, ond heb ddymuno ei chywilyddio’n gyhoeddus, penderfynodd Joseff, ei gŵr, ei gollwng ymaith yn ddirgel. (Mathew 1:18-19 BCN)
Casglwch ichwi drysorau yn y nef, lle nad yw gwyfyn na rhwd yn difa, a lle nad yw lladron yn torri trwodd nac yn lladrata. Oherwydd lle mae dy drysor, yno hefyd y bydd dy galon. (Mathew 6:20-21 BCN)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Clywir llef yn Rama, galarnad ac wylofain, Rachel yn wylo am ei phlant, yn gwrthod ei chysuro am ei phlant, oherwydd nad ydynt mwy.” (Jeremeia 31:15 BCN)
Ni fydd yn gweiddi nac yn codi ei lais, na pheri ei glywed yn yr heol. Ni fydd yn dryllio corsen ysig, nac yn diffodd llin yn mygu; bydd yn cyhoeddi barn gywir. (Eseia 42:2-3 BCN)
Yn y dyddiau hynny aeth gorchymyn allan oddi wrth Cesar Awgwstus i gofrestru’r holl Ymerodraeth. (Luc 2:1 BCN)
Daeth Iesu i barthau Cesarea Philipi, a holodd ei ddisgyblion: “Pwy y mae pobl yn dweud ydwyf fi, Mab y Dyn?” (Mathew 16:13 BCN)