Adfent 2014
Tymor yr Adfent 2014, 9
Dedwyddach yw rhoi na derbyn (Actau 20:35)
Mae’r Nadolig yn gallu bod yn amser o haelioni mawr. Daeth rhoi anrhegion yn gymaint rhan o’r ŵyl o leiaf yn y byd gorllewinol. Bydd plant yn llawenhau wrth agor eu trysorau ar fore dydd Nadolig. Ond bydd rhai eraill yn dangos eu haelioni trwy roi eu hamser i ofalu am y digartref neu’r unig. Er bod modd dadlau fod ein cymdeithas wedi mynd yn hunanol iawn, eto gallwn ddarganfod ysbryd hael mewn sawl lle. (rhagor…)
Yn sydyn ymddangosodd gyda’r angel dyrfa o’r llu nefol, yn moli Duw gan ddweud: “Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith y rhai sydd wrth ei fodd. ” (Luc 2:13-14 BCN)
Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt hwy, Ni ddaeth fy amser i eto: ond eich amser chwi sydd yn wastad yn barod. (Ioan 7:6 Cyfieithiad William Morgan)
Gosodaf elyniaeth hefyd rhyngot ti a’r wraig, a rhwng dy had di a’i had hithau; bydd ef yn ysigo dy ben di, a thithau’n ysigo’i sawdl ef.” (Genesis 3:15 BCN)
A phan ddeallodd y wraig fod y pren yn dda i fwyta ohono, a’i fod yn deg i’r golwg ac yn bren i’w ddymuno i beri doethineb, cymerodd o’i ffrwyth a’i fwyta, a’i roi hefyd i’w gŵr oedd gyda hi, a bwytaodd yntau. (Genesis 3:6 BCN)
Fel y brefa yr hydd am yr afonydd dyfroedd, felly yr hiraetha fy enaid amdanat ti, O Dduw. (Salmau 42:1 Cyfieithiad William Morgan)
Mae Rhagfyr y cyntaf wedi cyrraedd ac felly mae yna un thema yn llenwi’r siopau, yr hysbysebion ar y teledu, a strydoedd ein trefi a’n dinasoedd – mae’r Nadolig yn nesáu. Bydd yna baratoi o ddifrif yn digwydd. Mae Black Friday drosodd, Cyber Monday heddiw, ond mewn gwirionedd y pwyslais fydd paratoi ac edrych ymlaen at gael dathlu ar Ragfyr y pumed-ar-hugain. 
