Nadolig 6

imageDarllenwch 1 Thesaloniaid 4:13-18

Rydym wedi bod yn meddwl llawer yn ystod y mis hwn am Fab Duw yn dod i’n byd mewn baban bach. Gyda’r flwyddyn yn dod i ben ac amser yn brysio heibio, mae’n werth cofio mai rhan o stori fawr oedd dyfodiad Iesu. Mae’r Beibl yn dweud ei fod yn mynd i ddod eilwaith i’n byd. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 18

imageDarllenwch Eseia 55:8-11 a Luc 2:8-14

Mae amser yn newid ein perspectif. Mae rhywbeth sy’n ymddangos yn bwysig i mi heddiw ymhen wythnos neu fis neu flwyddyn wedi diflannu i ebargofiant. Ar y llaw arall gall digwyddiad sy’n mynd heibio heb i mi sylwi bron yn troi allan i fod yn newid cwrs bywyd ymhellach ymlaen. Gall y cyfarfyddiad annisgwyl hwnnw, neu’r penderfyniad i fynd un ffordd yn hytrach na ffordd arall, ddwyn ei ganlyniadau sy’n parhau am flynyddoedd. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 15

imageEnw arall a roddwyd i’n Harglwydd ni yw hwnnw a geir ar ddechrau efengyl Ioan – Y Gair. Mae’n wir fod yr union air “logos” yn y Groeg yn golygu llawer mwy na dim ond “gair”. Ond gallai Ioan ddim fod wedi dewis enw mwy addas ar gyfer ein hoes ni – oes cyfathrebu – lle mae geiriau yn llenwi tonfeddi’r awyr a’r we yn fwy nag erioed. (rhagor…)