imageDarllenwch Eseia 55:8-11 a Luc 2:8-14

Mae amser yn newid ein perspectif. Mae rhywbeth sy’n ymddangos yn bwysig i mi heddiw ymhen wythnos neu fis neu flwyddyn wedi diflannu i ebargofiant. Ar y llaw arall gall digwyddiad sy’n mynd heibio heb i mi sylwi bron yn troi allan i fod yn newid cwrs bywyd ymhellach ymlaen. Gall y cyfarfyddiad annisgwyl hwnnw, neu’r penderfyniad i fynd un ffordd yn hytrach na ffordd arall, ddwyn ei ganlyniadau sy’n parhau am flynyddoedd.

Yn ymherodraeth Rufain roedd yna lu o bethau yn ymddangos yn arwyddocaol ar ddechrau’r ganrif gyntaf. Hyd yn oed yn Jerwsalem ac ym Methlehem roedd yna bethau yn dwyn bryd pobl. Go brin fod geni baban i gwpl digartref yn denu sylw llawer o bobl. Fuodd yna ddim llun o angylion a bugeiliaid ym mhapur bro Bethlehem. Ac eto:

Draw yn nhawelwch Bethlem dref
Daeth baban bach yn Geidwad byd!

Beth sydd o bwys yn ein byd ni heddiw? Yr wythnos hon rydym wedi gweld penawdau newyddion am y ffilm Star Wars, am David Cameron yn ceisio newid amodau’r Undeb Ewropeaidd ac am Jose Mourinho yn colli ei swydd yn Chelsea. Ond nid dyna sydd wedi mynd â fy mryd i bore ma. Rwyf newydd gael neges gan gyfaill sy’n gweithio yn dawel yng Ngogledd Iraq yn ceisio ffyrdd o rannu efengyl Iesu Grist gyda’r Moslemiaid a’r Yesidis yno. Mae wedi mynd gyda’i wraig a phedwar o blant yno i fyw, ac wrth gwrs, nid yw’n gallu sôn amdano’i hun fel cenhadwr. Ond heddiw mae’n cwrdd gyda chriw bychan i addoli. (Mewn gwlad fel Iraq, dydd Gwener yw’r diwrnod pan ddaw pobl ynghyd i addoli.) Mae’n gweithio heb fod ymhell iawn o ble mae Isis yn rheoli, a nifer o ffoaduriaid yn yr ardal.

Heddiw mae’n sôn wrthyn nhw am hanes Ruth, gan geisio dangos fel mae Boas yn cyfeirio ein meddyliau at Grist – Boas yn trugarhau wrth deulu o ffoaduriaid, a Christ yn cynnig yr un drugaredd i ninnau. Wythnos nesaf bydd yn pregethu am y Gair yn dod yn gnawd, gan feddwl am Ioan 1:1-18, a theulu o ffoaduriaid fu’n byw gyda nhw pan wnaeth Isis feddiannu eu pentref yn dod i gael cinio gyda nhw. Fydd y digwyddiadau hyn ddim yn y papurau newydd nac ar y teledu. Ond dwi’n amau, fel y bu angylion uwchlaw bryniau Bethlehem yn gorfoleddu am eni’r baban, felly mae’r hyn sy’n digwydd yng nghartref fy nghyfaill a’i deulu yn cael mwy o sylw yn llysoedd y nef na’r hyn sy’n llenwi penawdau newyddion y dydd.

Tybed gewch chi gyfle i ddweud gair arwyddocáol wrth rywun heddiw? Neu beth am y gwahoddiad i wasanaeth carolau dydd Sul? Gweddïwch am berspectif y nef heddiw, a chredwch y gall Duw eich defnyddio yn ei waith gogoneddus, oherwydd “nid fy meddyliau i……….”