Tymor yr Adfent xv

_71750229_71750228Heddiw mae sylw mawrion y byd ar lecyn tlawd, diarffordd o’r enw Qunu yn Ne Affrica. Does yna ddim arbenigrwydd mawr i’r lle. Mae’n ardal ddigon hardd ond does dim dinas fawr yno. Does yna ddim diwydiant trwm, neu fwyngloddiau, neu brifysgol i ddod â chyfoeth nac arbenigrwydd i’r ardal. Ond yno y ganwyd Nelson Mandela, ac yno heddiw fe’i cleddir, lle mae ei gyndadau a thri o’i feibion wedi eu claddu. Dyna sydd wedi gosod y lle ar y map – mae’r mab a anwyd yno wedi ei wneud yn fan y bydd pobl yn teithio iddo i dalu gwrogaeth i’r dyn fu mor allweddol yn hanes diweddar y wlad. (rhagor…)

Tymor yr Adfent vi

Un peth fydd yn llenwi’r newyddion heddiw ar y teledu a’r papurau newyddion – Marwolaeth Nelson Mandela. Dyma ddyn ddaeth yn arwr byd yn sgîl ei benderfyniad i geisio torri cylch atgasedd yn Ne Affrica. images Fe ddioddefodd gael ei garcharu am saith mlynedd ar hugain. Ond erbyn diwedd ei gyfnod yn y carchar roedd llywodraeth y wlad yn pledio am ei gyd-weithrediad. Pe byddai wedi ymateb yn wahanol gallai’r wlad fod wedi troi yn faes y gad. Ond dewisodd lwybr oedd yn gosod cymod uwchlaw chwerwedd, ac am hynny mae ei ddylanwad yn fawr. Yn sicr mae yn un o gymeriadau mawr ein hoes ni. Rhaid diolch am ei arweiniad a chryfder ei gymeriad urddasol. (rhagor…)