_71750229_71750228Heddiw mae sylw mawrion y byd ar lecyn tlawd, diarffordd o’r enw Qunu yn Ne Affrica. Does yna ddim arbenigrwydd mawr i’r lle. Mae’n ardal ddigon hardd ond does dim dinas fawr yno. Does yna ddim diwydiant trwm, neu fwyngloddiau, neu brifysgol i ddod â chyfoeth nac arbenigrwydd i’r ardal. Ond yno y ganwyd Nelson Mandela, ac yno heddiw fe’i cleddir, lle mae ei gyndadau a thri o’i feibion wedi eu claddu. Dyna sydd wedi gosod y lle ar y map – mae’r mab a anwyd yno wedi ei wneud yn fan y bydd pobl yn teithio iddo i dalu gwrogaeth i’r dyn fu mor allweddol yn hanes diweddar y wlad.

Doedd yna ddim byd arbennig am Fethlehem ychwaith. Go brin y byddai fawr neb ohonom yn gwybod am y lle, oni bai fod yna rhyw Un wedi ei eni yno ychydig dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl. Tref fach ddigon di-nod mewn gwlad fach yn y Dwyrain Canol oedd Bethlehem. Ond fe anwyd Un yno – un y gallwn ddweud sy’n fwy arbennig na Nelson Mandela, neu unrhyw un arall a anwyd erioed. Ac ar adeg ei eni doedd dim llawer yn cymryd sylw o’r ffaith. Fe nodwyd y digwyddiad gan ychydig o fugeiliaid, a daeth rhyw sêr ddewiniaid o’r dwyrain i weld y baban. Ond o ganlyniad i eni’r bychan hwn daeth gobaith i’n byd.

Draw yn nhawelwch Bethlem dref
Daeth baban bach yn Geidwad byd;

Ac o ganlyniad mae yn bentrefi yng Nghymru heddiw sydd ag enwau megis Bethlehem, Nasareth, Bethesda a Nebo – enwau sydd mewn gwirionedd yn perthyn i’r Dwyrain Canol, ond sydd bellach mor Gymreig eu naws ag unrhyw enw arall.

Y wyrth fawr heddiw ydi fod yr Iesu hwn a anwyd ym Methlehem yn gallu dod i fyw yng nghalon unrhyw un sy’n dod ato mewn ffydd ac edifeirwch. Does dim angen i ni fod yn bobl arbennig. Yn wir, mae ein diffygion yn reswm pam y dylem frysio ato. A phan ddaw, yna fe fydd ein calonnau a’n bywydau bach cyffredin ni yn dod yn arbennig. Bydd Iesu yn gosod ei stamp arnom.

A dyna pam fod cymaint o’r hen garolau plygain yn gorffen gydag apêl i ni ddod at Iesu ein hunain, i’w dderbyn i’n calonnau ni:

Am hyn, bechadur, brysia,
Fel yr wyt, fel yr wyt,
Ymofyn am y noddfa,
Fel yr wyt;
I ti’r agorwyd ffynnon
A ylch dy glwyfau duon
Fel eira gwyn yn Salmon,
Fel yr wyt, fel yr wyt,
Gan hynny tyrd yn brydlon,
Fel yr wyt.