Adfent 2015
Tymor yr Adfent 12
Darllenwch Luc 2:1-7
Mae gan y Saeson ymadrodd: “The devil is in the detail.” Yr awgrym yw fod y darlun eang yn gallu ymddangos yn braf a hawdd, ond wrth i ni fanylu, dyna pryd mae pethau’n mynd yn anodd. Ond wrth edrych ar hanes y Nadolig mae gras yn dod i’r amlwg yn y manylion. (rhagor…)
Yn y dyddiau hynny aeth gorchymyn allan oddi wrth Cesar Awgwstus i gofrestru’r holl Ymerodraeth. (Luc 2:1 BCN)
Ydech chi wedi gwneud rhyw gynlluniau arbennig ar gyfer 2014? Mae dechrau’r flwyddyn yn adeg lle mae llawer yn edrych ymlaen at rywbeth. Rydym newydd gael y gwyliau Nadolig, ac wrth i’r rheini ddod i ben, rydym ninnau eisiau gallu cael rhywbeth newydd i feddwl amdano.